Beic modur i hybu diogelwch
PostiwydMae partneriaeth sy'n gyfrifol am wneud ffyrdd Gwynedd a Môn yn saffach am gael beic modur i hybu eu gwaith.
Nod Partneriaeth Diogelwch Ffyrdd Gwynedd-Môn - sy'n cynnwys Cynghorau Gwynedd a Môn a'r gwasanaethau brys - yw hyrwyddo gwell ddealltwriaeth o ddiogelwch ffyrdd. Trwy gyfuno amrywiaeth o arbenigedd diogelwch ffyrdd, mae'n gweithio tuag at leihau gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol ymysg defnyddwyr ffyrdd sy'n fwy agored i niwed, yn enwedig gyrwyr ifanc a'u teithwyr a beicwyr modur.
Yn ôl ymchwil gan y Barterniaeth, beicwyr modur, o blith holl ddefnyddwyr ein ffyrdd, yw'r rhai mwyaf tebygol o fod mewn damwain, ac mae llawer yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifriol bob blwyddyn.
Dyna pam mae'r Bartneriaeth yn gweithio'n agos gyda grwpiau o feicwyr modur i hyrwyddo cynlluniau diogelwch, er enghraifft trwy gynnal gweithdai Beicio Diogel a thrwy siarad gyda beicwyr modur i'w hatgoffa o'r camau syml y gallan nhw eu cymryd i wneud eu teithiau'n fwy diogel.
I'r perwyl hwn, mae beic modur wedi cael ei fenthyg i'r bartneriaeth gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a fydd yn cael ei ddefnyddio yn y digwyddiadau hyn ac wrth drafod gyda'r gymuned feicio modur.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, yr Aelod o Gabinet Cyngor Gwyedd gyda chyfrifoldeb am briffyrdd a thrafnidiaeth:
"Mae'r bartneriaeth yn gwneud gwaith hanfodol trwy atgoffa pob gyrrwr i gymryd gofal ar y ffyrdd. Mae gormod o fywydau'n cael eu heffeithio gan ddamweiniau ffyrdd, ac mae beicwyr modur mewn perygl neilltuol. Dw i'n hynod falch o weld Cyngor Gwynedd yn gweithio efo'i bartneriaid i wneud ein cymunedau lleoedd diogel a dw i'n hyderus y bydd defnydd da'n cael ei wneud o'r beic modur hwn, y mae'r Gwasanaeth Tân wedi bod mor garedig â'i fenthyg."
Dywedodd Terry Williams, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
"Mae beicwyr modur ymysg y rhai sy'n wynebu'r risg uchaf fel defnyddwyr ffyrdd, ac rydan ni'n parhau i weld enghreifftiau dychrynllyd o fywydau'n cael eu torri'n drychinebus o fyr oherwydd diffyg profiad a chymryd risgiau. Mi fydd defnydd da'n cael ei wneud o'r beic modur ac mi fydd yn arf delfrydol wrth inni drafod efo grwpiau o feicwyr modur a theithwyr eraill sy'n agored i niwed."
Dywedodd Dermot O'Leary o Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chadeirydd Partneriaeth Diogelwch Ffyrdd Gwynedd-Môn:
"Mae'r Bartneriaeth yn cydnabod bod angen cysoni dulliau a gwneud y defnydd gorau bosibl o adnoddau wrth hyrwyddo diogelwch ffyrdd mewn cydweithrediad â chyrff allweddol sy'n rhannu'r un amcanion o leihau damweiniau. Fel Cadeirydd y grŵp, hoffwn ddiolch i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am eu cyfraniad. Mae'r beic modur yn dangos logo'r bartneriaeth a chaiff ei weld fel caffaeliad amhrisiadwy, a fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo diogelwch ffyrdd yn ein cymunedau ac annog beicwyr modur i fynd i weithdai Beicio Diogel lleol."
Dywedodd Paul Cheshire, Cydgysylltydd Beicio Diogel Heddlu Gogledd Cymru, y dylid canmol partneriaethau sy'n ymwneud â hyrwyddo diogelwch beicwyr modur yng ngogledd Cymru.
"Roedd y Gwasanaeth Tân, sydd bob amser wedi cefnogi'r fenter, yn iawn i ddewis rhoi'r beic modur iddyn nhw," meddai. "Mae gan y bartneriaeth record dda yn hyn o beth ac mi fyddan nhw'n gwneud defnydd da o'r cerbyd i hyrwyddo'n hamcanion cyffredin."