Dihangfa lwcus i deulu o Ynys Môn yn dilyn tân sosban sglodion
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu peryglon sosbenni sglodion a gallu larymau mwg i arbed bywydau wedi i deulu o Ynys Môn gael dihangfa lwcus o dân yn eu cartref.
Cafodd diffoddwyr tân o Gaergybi, Rhosneigr a Llangefni eu galw i dân mewn tŷ yn Queens Park, Caergybi am 06.43o'r gloch Ddydd Sul 23 Medi.
Cychwynnodd y tân wedi i sosban sglodion gael ei gadel heb neb i gadw llygaid arni. Cafodd y preswylwyr, cwpl a'u mhab, eu rhybuddio am y tân gan larwm mwg a oedd wedi ei osod yn yr eiddo. Derbyniodd y ddynes driniaeth yn y fan a'r lle oherwydd ei bod wedi anadl mwg.
Defnyddid y diffoddwyr tân un brif bibell ddŵr, offer diffodd tân carbon deuocsid a dau set o offer anadlau i ddelio gyda'r tân a achosodd ddifrod mwg sylweddol yn y gegin.
MeddaiTerry Williams, Rheolwr Diogelwch Cymunedol gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedd y teulu'n lwcus iawn. Disgynnodd y mab i gysgu ar ôl gadel y sosban sglodion ymlaen wedi iddo ddychwelyd adref ar ôl noson allan - y larwm mwg a rybuddiodd pawb am y tân.
Yn 2007, bu farw Sean Bowers, 24, o Benyffordd ac Andrew Roberts, 39, o Rhuthun, y dilyn tanau yn y cartref - roedd y tanau hyn wedi eu hachosi gan sosbenni sglodion a oedd wedi eu gadael heb neb i gadw llygaid arnynt.
"Rydw i'n eich cynghori i gael gwared â'ch hen sosban sglodion - mae ffrïwyr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r gwres yn opsiwn llawer mwy diogel.
"Ymhen ychydig funudau, gall yr olew yn y sosban orboethi a mynd ar dân. Gall tân bychan ddatblygu i fod yn dân difrifol iawn sydd yn bygwth bywydau yn gyflym iawn - os byddwch yn cysgu pan fydd y tân yn cynnau yn byddwch mewn trybini mawr. Byddwch yn anymwybodol wedi i chi anadlu dim ond ychydig o fwg.
"Y ffordd orau i sicrhau y gallwch adael yn ddiogel yw gosod larwm mwg gweithredol yn eich cartref. I gofrestru am larwm mwg am ddim, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.