Llifogydd yng Ngogledd Cymru
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael ei alw i nifer o lifogydd ar hyd a lled y rhanbarth y bore yma -yn bennaf i ddelio â llifogydd a achoswyd gan ddŵr wyneb. Ni achoswyd unrhyw ddifrod i gartrefi neu adeiladau.
Er bod Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion ar gyfer sawl ardal, mae'r broblem ar ei gwaethaf yn Sir y Fflint.
A,12.18 o'r gloch galwyd criwiau o Lannau Dyfrdwy i Chester Rd, Pentre, Glannau Dyfrdwy i atal llifddwr rhag cyrraedd rhes o dai. Cafodd nifer o dai ar Willow Road eu heffeithio gan y llifogydd.
Am 12.08 o'r gloch fe anfonwyd peiriannau o'r Wyddgrug a Wrecsam i Gae Bracty, Yr Wyddgrug, i ddelio gyda llifogydd y tu allan i eiddo.
Am 09.42 o'r gloch galwyd criwiau i Lanfynydd lle'r oedd car yn sownd mewn llifddwr. Roedd yn rhaid i'r criw achub y gyrrwr.
Ers 09.30 o'r gloch y bore yma, mae ystafell reoli'r gwasanaeth tân ac achub wedi derbyn 28 o alwadau yn ymwneud â llifogydd ac y mae swyddogion neu griwiau wedi cael eu galw i 19 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thai a oedd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd, a'r rheiny yn bennaf yn Sir y Fflint.
Cynghorir y cyhoedd i gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am gyngor;
Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol - gwasanaeth rhad ac am ddim sy'n rhoi rhybuddion llifogydd i gartrefi sydd yn agored i lifogydd trwy alwad ffôn, ffôn symudol, ebost, neges destun, ffacs neu alwr. I gofrestru galwch 0845 988 1188 neu ewch i www.environment-agency.gov.uk.
Mae rhybuddion lifogydd yn cael eu darlledu ar y teledu a'r radio fel rhan o'r bwletinau tywydd a theithio rheolaidd; gwefan yr Asiantaeth www.environment-agency.gov.uk/floodwarning, ITV Teletext (Tudalen 169) a BBC Ceefax (Tudalen 419). At hyn, mae gan yr Asiantaeth linell gwybodaeth 24 awr sydd yn rhoi gwybodaeth am Rybuddion Llifogydd ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Gallwch wrando ar y rhybuddion yn eich ardal chi ar unrhyw adeg neu siarad â thriniwr galwadau 24 awr y dydd trwy alw Floodline 08459 88 11 88.
Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar y wefan. Ewch i www.environment-agency.gov.uk/flood i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
- Am ragor o wybodaeth am yr Asiantaeth ewch i'w gwefan - www.environment-agency.wales.gov.uk