Y diweddaraf am y llifogydd yng Ngogledd Cymru – 16.30 o’r gloch
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn delio gyda llifogydd drwy'r dydd - roedd y digwyddiadau yn bennaf yn ymwneud â dŵr wyneb a draeni a oedd yn gorlifo. Cafwyd llifogydd mewn rhai cartrefi ac adeiladau ond ni achoswyd unrhyw ddifrod difrifol.
Er ein bod wedi cael ein galw i ddigwyddiadau yn Wrecsam a Chonwy, mae'r broblem ar ei gwaethaf yn Sir y Fflint.
Ers 09.30 0'r gloch y bore yma, mae ystafell reoli'r gwasanaeth tân ac achub wedi derbyn 44 o alwadau yn ymwneud â llifogydd ac y mae swyddogion neu griwiau wedi cael eu galw i 34 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thai a oedd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd.
Am 14.46 o'r gloch, galwyd criwiau o Gonwy a Bae Colwyn i Ffordd y Traeth, Llanddulas, Abergele lle bu'n rhaid iddynt bwmpio dŵr oddi ar y ffordd.
Am 14.41 o'r gloch galwyd criw o Gonwy i eiddo yn Glan y Môr, Abergele a oedd wedi dioddef llifogydd a achoswyd gan ddraen a oedd wedi blocio.
Am 13.57 o'r gloch galwyd criwiau o'r Waun a Johnsown i bwmpio dŵr o eiddo yn Lambourne Court, Wrecsam lle'r oedd draen arall wedi blocio.
Hefyd am 13.57 o'r gloch galwyd criwiau o Johnstown a Rhuthun i gynorthwyo cerbyd a oedd wedi yn sownd mewn llifddwr a oedd yn llifo'n gyflyn yng Nghoedpoeth, Wrecsam - llwyddwyd i achub pawb a chawsant driniaeth gan barafeddygon yn y fan a'r lle.
Cynghorir y cyhoedd i gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am gyngor;
Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol - gwasanaeth rhad ac am ddim sy'n rhoi rhybuddion llifogydd i gartrefi sydd yn agored i lifogydd trwy alwad ffôn, ffôn symudol, ebost, neges destun, ffacs neu alwr. I gofrestru galwch 0845 988 1188 neu ewch i www.environment-agency.gov.uk.
- Mae rhybuddion lifogydd yn cael eu darlledu ar y teledu a'r radio fel rhan o'r bwletinau tywydd a theithio rheolaidd; gwefan yr Asiantaeth www.environment-agency.gov.uk/floodwarning, ITV Teletext (Tudalen 169) a BBC Ceefax (Tudalen 419). At hyn, mae gan yr Asiantaeth linell gwybodaeth 24 awr sydd yn rhoi gwybodaeth am Rybuddion Llifogydd ar hyd a lled Cymru a Lloegr. Gallwch wrando ar y rhybuddion yn eich ardal chi ar unrhyw adeg neu siarad â thriniwr galwadau 24 awr y dydd trwy alw Floodline 08459 88 11 88.
- Mae rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar y wefan. Ewch i www.environment-agency.gov.uk/flood i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
- Am ragor o wybodaeth am yr Asiantaeth ewch i'w gwefan - www.environment-agency.wales.gov.uk