Diffoddwyr tân go iawn yn serennu mewn hysbyseb radio
PostiwydMae dau ddiffoddwr tân rhan amser yn serennu mewn hysbyseb radio fel rhan o ymgyrch gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i recriwtio ychwaneg o ddiffoddwyr tân ar hyd a lled y rhanbarth.
Mae James Roberts yn Rheolwr criw yng Ngorsaf Dân Cerrigydrudion ac mae Tammy Llywelyn yn Ddiffoddwraig Tân yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug.
Fe gymrodd y ddau ran mewn hysbyseb radio, gan rannu eu sylwadau hwy ar eu gwaith fel diffoddwyr tân sy'n darparu gwasanaeth tân yn ardaloedd eu gorsafoedd tân lleol.
Bydd yr hysbyseb 30 eiliad yn cael ei darlledu ar Heart 96 -107 o heddiw ymlaen (Dydd Mercher), a bydd yn ymddangos ar nifer o raglenni a fydd yn cael eu darlledu yng Ngwynedd, Ynys Môn, Arfordir Gogledd Cymru ac ardaloedd dwyreiniol Gogledd Cymru, dros y bythefnos nesaf. Bydd yr ymgyrch recriwtio yn dod i ben ganol fis Chwefror, ac mae'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi ei ohirio hyd nes y 15fed o fis Chwefror.
Mae James, sydd yn 27, wedi gweithio fel diffoddwr tân System Dyletswydd Rhan Amser ers naw mlynedd, wedi iddo ymuno yn 18 mlwydd oed. Roed yn awyddus i gymryd rhan yn yr hysbyseb er mwyn helpu i recriwtio ychwaneg o ddiffoddwyr tân i gadw ei gymuned leol yn ddiogel. Meddai: "Roedd yn grêt cael profi rhywbeth newydd a helpu i recriwtio staff yn ein gorsafoedd ar yr un pryd. Rydw i'n byw o fewn pum munud i orsaf dân Cerrig, ac rydw i'n darparu gwasanaeth y tu allan i oriau gwaith arferol. Felly gyda'r nos ac ar benwythnosau rydw i ar gael i ymateb i ystod eang o ddigwyddiadau yn fy ardal. Mae'r swydd yn rhoi boddhad i mi ac mae'n fy helpu i deimlo fy mod yn chwarae rhan bwysig er mwyn cadw fy nghymuned yn ddiogel."
Mae Tammy, sydd yn 29, yn darparu gwasanaeth yng Ngorsaf Dân yr Wyddgrug tra ei bod yn gweithio i'w chyflogwr, Cyngor Sir y Fflint. Fe ymunodd â'r Gwasanaeth bum mlynedd yn ôl ac mae'n awyddus i annog eraill i ddilyn gyrfa fel diffoddwr tân rhan amser. Meddai: " Fe wnes i fwynhau recordio'r hysbyseb a hoffwn ysgogi'r rhai sydd gan ddiddordeb i ystyried gyrfa fel diffoddwr tân.
"Mae nifer o gyflogwyr yn ymwybodol o'r rôl hanfodol y mae diffoddwyr tân rhan amser yn ei chwarae yn eu cymunedau lleol ac mae nifer o gyflogwyr yn fodlon rhyddhau staff i ymateb i argyfyngau brys. Rydw i'n annog unrhyw un sydd yn barod i wynebu'r her i ddod o hyd i ragor o wybodaeth!"
Mae Ruth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, yn egluro: " Mae diffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn darparu gwasanaeth tân ac achub hanfodol yn yr ardal y mae eu gorsaf dân leol yn ei gwasanaethu. Rydym yn edrych am unigolion addas, yn enwedig rhai sydd ar gael yn ystod y dydd, a all gyrraedd eu gorsaf dân leol ymhen pum munud o gael eu galw allan.
"Drwy adael i James a Tammy gymryd rhan yn yr hysbysebion hyn, rydym yn gobeithio y caiff darpar ymgeiswyr flas ar fywyd fel diffoddwr tân rhan amser. Rydym yn chwilio am ddynion a merched brwdfrydig sydd gan synnwyr cyffredin, ymrwymiad ac ymroddiad. Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub dimau agos sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel ac maent yn defnyddio'r offer mwyaf modern a diweddar. Bydd recriwtiaid hefyd yn cymryd rhan yn ein gwaith diogelwch tân sydd yn helpu i atal tanau rhag digwydd yn ein cymunedau. "
"Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub dimau agos sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel ac maent yn defnyddio'r offer mwyaf modern a diweddar. Bydd recriwtiaid hefyd yn cymryd rhan yn ein gwaith diogelwch tân sydd yn helpu i atal tanau rhag digwydd yn ein cymunedau. Rydym hefyd wedi trefnu nosweithiau agored yn y gorsafoedd lle'r ydym yn recriwtio ar hyn o bryd - edrychwch ar ein gwefan neu'n tudalen Facebook am ragor o fanylion."
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn recriwtio yn y gorsafoedd canlynol:
- Cerrigydrudion
- Llanrwst
- Corwen
- Dinbych
- Rhuthun
- Llanelwy
- Fflint
- Yr Wyddgrug
- Blaenau Ffestiniog
- Porthmadog
- Amlwch
Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 18 mlwydd oed. Mae'n rhaid iddynt fod yn iach a phasio profion dawn. Yn ychwanegol i'r ffi gadw fisol a delir, maent yn derbyn tâl ychwanegol am ymateb i alwadau, presenoldeb a nosweithiau ymarfer.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrra fel diffoddwr tân rhan amser, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 a gofynnwch am gael eich cysylltu â'ch swyddfa sirol leol
Am ragor o wybodaeth a chyfleoedd am yrfa fel diffoddwr tân System Dyletswydd Rhan Amser mewn gorsafoedd ar hyd a lled y Gogledd, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu dilynwch ni ar Facebook www.facebook.com/Northwalesfireservice.