ADALW BLANCEDI TRYDAN MORPHY RICHARDS
PostiwydADALW BLANCEDI TRYDAN MORPHY RICHARDS HYSBYSIAD WEDI EI GYHOEDDI 14 IONAWR 2013
*** Adalw cynnyrch ***
Blanced Drydan Sengl, Model 75310
Blanced Drydan Ddwbl sydd gan reolydd dwbl, Model 75312
Mae Morphy Richards wedi cyhoeddi hysbysiad sydd yn adalw Blancedi Trydan sydd gan y rhifau model 75310 a 75312.
Gwerthwyd y blancedi hyn yn y Du ac Iwerddon gan fân-werthwyr cenedlaethol ac annibynnol ac ar wefan Morphy Richards rhwng mis Hydref 2008 a mis Ionawr 2010.
Mae'n bosib y gall nam ddatblygu yn y blancedi hyn a all achosi i'r blancedi orboethi a mynd ar dân. Fel mesur rhagofalus, rydym yn gofyn i gwsmeriaid roi'r gorau i'w defnyddio ar unwaith.
Gofynnwn i berchnogion y blancedi dan sylw ( y gellid eu hadnabod dwy edrych am y rhifau model 75310 neu 75312 ar y label) roi'r gorau i ddefnyddio'r blancedi a chysylltu â Morphy Richards drwy ffonio (01709 572570) neu anfon ebost (blankets@morphyrichards.co.uk). Mae'r llinellau ffôn ar agor Ddydd Llun - Dydd Gwener rhwng 8:30am - 4:00pm.
Nid oes unrhyw flancedi trydan eraill gan Morphy Richards wedi eu heffeithio gan yr hysbysiad hwn a hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid am eu cydweithrediad ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustod a achosir gan hyn.