Angen diffoddwyr tân rhan amser mewn gorsafoedd ar hyd a lled y Gogledd
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru heddiw'n lansio ymgyrch i recriwtio diffoddwyr tân i'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw a fydd yn helpu i amddiffyn cymunedau ar hyd a lled y rhanbarth.
Rydym yn awyddus i recriwtio diffoddwyr tân i'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw mewn sawl ardal ac rydym yn chwilio am geisiadau gan unigolion brwdfrydig sydd yn awyddus i weithio fel diffoddwyr tân rhan amser yn eu gorsaf leol. Rydym yn recriwtio yn:
· Cerrigydrudion
· Llanrwst
· Corwen
· Dinbych
· Rhuthun
· Llanelwy
· Fflint
· Yr Wyddgrug
· Blaenau Ffestiniog
· Porthmadog
· Amlwch
Meddai Ruth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: " Mae diffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn darparu gwasanaeth tân ac achub hanfodol yn yr ardal y mae eu gorsaf dân leol yn ei gwasanaethu. Rydym yn edrych am unigolion addas, yn enwedig rhai sydd ar gael yn ystod y dydd, ac a all gyrraedd eu gorsaf dân leol ymhen pum munud o gael eu galw allan.
"Efallai bod y bobl hyn yn adeiladwyr, nyrsys, gweithwyr ffatri, gwragedd tŷ neu bobl sydd yn gweithio o adref yn ystod eu horiau gwaith arferol ond eu bod ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys yn ôl y galw.
"Mae diffoddwyr tân yn derbyn hyfforddiant lawn, sydd yn achub pobl ac eiddo o danau. Mae diffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn bresennol yn ystod damweiniau ffordd, rheilffordd ac awyrennau, gollyngiadau cemegol, llifogydd, tanau mewn coedwigoedd ac ar rostiroedd a mynyddodd, damweiniau amaethyddol a digwyddiadau lle mae'n rhaid achub anifeiliaid.
"Rydym yn chwilio am ddynion a merched brwdfrydig sydd gan synnwyr cyffredin, ymrwymiad ac ymroddiad. Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub dimau agos sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel ac maent yn defnyddio'r offer mwyaf modern a diweddar. Bydd recriwtiaid hefyd yn cymryd rhan yn ein gwaith diogelwch tân sydd yn helpu i atal tanau rhag digwydd yn ein cymunedau. "
Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 18 mlwydd oed. Mae'n rhaid iddynt fod yn iach a phasio profion dawn. Yn ychwanegol i'r ffi gadw fisol a delir, maent yn derbyn tâl ychwanegol am ymateb i alwadau, presenoldeb a nosweithiau ymarfer.
Mae nifer o gyflogwyr yn ymwybodol o rôl hanfodol y mae personél rhan amser y gwasanaeth tân ac achub yn ei chwarae yn y gymuned ac y mae nifer o gyflogwyr yn fodlon rhyddhau staff i ddiffodd tanau a mynychu digwyddiadau brys eraill.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrra fel diffoddwr tân rhan amser, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 a gofynnwch am gael eich cysylltu â'ch swyddfa sirol leol. Dylai pob cais fod i law erbyn Ionawr 21ain.
Am ragor o wybodaeth a chyfleoedd gyrfa i ddiffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw mewn gorsafoedd ar hyd a lled y Gogledd, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk