Nosweithiau Agored y System Dyletswydd yn Ôl y Galw - Dewch draw i’ch gorsaf leol!
PostiwydMae gorsafoedd tân ar hyd a lled y rhanbarth wedi trefnu nosweithia agored ar gyfer darpar ddiffoddwyr tân fel rhan o ymgyrch newydd i recriwrio ychweneg o ddiffoddwyr tân i'r Ssytem Dyletswydd yn Ôl y Galw.
Meddai Ruth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: "Mae diffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn darparu gwasanaeth tân ac achub hanfodol yn yr ardal y mae eu gorsaf dân leol yn ei gwasanaethu. Rydym yn edrych am unigolion addas, yn enwedig rhai sydd ar gael yn ystod y dydd, a all gyrraedd eu gorsaf dân leol ymhen pum munud o gael eu galw allan.
"Dewch draw i'r noson agored yn eich gorsaf dân leol i gael gwybod mwy!
Dyddiadau'r Nosweithiau Agored
- Nos Lun 14eg Ionawr - Gorsaf Dân yr Wyddgrug (6pm - 9pm)
- Nos Fawrth 15fed Ionawr - Gorsaf Dân y Fflint (6pm - 9pm)
- Nos Fercher 16eg Ionawr - Gorsaf Dân Llanelwy (6pm - 9pm)
- Nos lun 21ain Ionawr - Gorsaf Dân Porthmadog (6pm-9pm)
- Nos Fawrth 22ain Ionawr - Gorsaf Dân Blaenau Ffestiniog (6pm - 9pm)
- Nos Fercher 23ain Ionawr - Gorsaf Dân Rhuthun (6pm - 9pm)
- Nos Lun 28ain Ionawr - Gorsaf Dân Corwen (6pm - 9pm)
- Nos Fawrth 29ain Ionawr - Gorsaf Dân Llanrwst (6pm - 9pm)
- Nos Fercher 30ain Ionawr - Gorsaf Dân Dinbych (6pm - 9pm)
- Nos Fawrth 5ed Chwefror - Gorsaf Dân Cerrigydrudion (6pm - 9pm)
- Nos Fercher 6ed Chwefror - Gorsaf Dân Amlwch - (6pm - 9pm)
Am ragor o wybodaeth a chyfleoedd gyrfa i ddiffoddwyr tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw mewn gorsafoedd ar hyd a lled y Gogledd, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu galwch Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 a gofynnwch am gael eich cysylltu i'ch swyddfa sirol leol. Dylai pob cais fod i law erbyn Ionawr 21ain.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 18 mlwydd oed. Mae'n rhaid iddynt fod yn iach a phasio profion dawn. Yn ychwanegol i'r ffi gadw fisol a delir, maent yn derbyn tâl ychwanegol am ymateb i alwadau, presenoldeb a nosweithiau ymarfer.
Mae nifer o gyflogwyr yn ymwybodol o rôl hanfodol y mae personél rhan amser y gwasanaeth tân ac achub yn ei chwarae yn y gymuned ac y mae nifer o gyflogwyr yn fodlon rhyddhau staff i ddiffodd tanau a mynychu digwyddiadau brys eraill.