Tân yn ffatri Kronospan, Wrecsam
PostiwydCafodd diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i dân bychan yn Kronospan, yn y Waun.
Derbyniwyd yr alwad am 01.03hrs o'r gloch Ddydd Iau 11eg Hydref, 2013.
Cafodd criwiau o'r Waun, Wrecsam, Llangollen a Glannau Dyfrdwy eu galw i'r digwyddiad.
Roedd y tân wedi ei gyfyngu i gludfelt - er mai tân bychan ydoedd roedd yn anodd ei gyrraedd. Daethpwyd â'r tân dan reolaeth erbyn 03.28o'r gloch drwy ddefnyddio un bibell ddŵr a dwy brif bibell.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan sbarc a roddodd sglodion ffibr ar dân.
Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y tân. Cafodd oddeutu 20 tunnell o sglodion ffibr eu llosgi yn y tân.