Gweithio mewn partneriaeth i gadw teuluoedd ym Morras yn ddiogel
PostiwydBydd dau deulu o Forras yn symud i mewn i gartrefi newydd sydd wedi cael eu haddasu i bobol sydd gan broblemau symudedd ac y mae systemau taenellu o'r radd flaenaf wedi cael eu gosod ynddynt gyda diolch i brosiect partneriaeth rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Y mae gan y ddau deulu blant gydag anableddau sydd yn ei gwneud hin anodd iddynt symud o gwmpas y tŷ a mynd allan yn gyflym mewn achos o dân.
Gyda diolch i nawdd gan Gyngor Wrecsam a'r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, roedd modd i'r awdurdod addasu hen gartref preswyl gwag ar Ffordd Dyfed, Borras i ddau fyngalo sengl ar gyfer teuluoedd gyda phlant a chanddynt anableddau. Gosodwyd systemau taenellu yn y byngalos yn ogystal yn dilyn nawdd drwy Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Dyma oedd gan Mrs Tracey Samuel, a symudodd i'w byngalo'r penwythnos diwethaf, i'w ddweud: "Mae'r tŷ'n golygu popeth i mi a bydd yn galluogi i'm plant fyw bywyd normal. Rydw i'n hapus iawn gyda'r system taenellu a dwi'n meddwl y dylid eu gosod mewn rhagor o dai. Hoffwn ddiolch i gwmni adeiladu Maelor am eu gwaith."
Y mae Chris Nott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol dros Wrecsam a Sir y Fflint yn egluro: "Dyma ddiwedd cyffrous iawn i brosiect tair blynedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac rydym yn falch ein bod wedi helpu i amddiffyn trigolion a allai fod yn agored i niwed yn ardal Wrecsam drwy weithio gyda'n gilydd yn y modd hwn. Gall mentrau fel hyn achub bywydau ac amddiffyn cymunedau yw ein prif flaenoriaeth."
Meddai'r Cynghorydd Mark Pritchard, yr Aelod Arweiniol dros Dai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:
"Mae'r adeiladau hyn wedi bod yn wag ers 2009 ac felly rydym yn falch ein bod wedi gallu darparu cartrefi o ansawdd da i'r teuluoedd hyn sydd yn cwrdd â'u hanghenion.
"Roedd yn rhaid i ni oresgyn llawer o rwystrau i wneud yn siŵr bod y prosiect yn llwyddiannus ac felly hoffwn ddiolch i'r adran dai am eu hymrwymiad parhaus a'u gwaith caled. Mae'r adeiladau wedi cael eu haddasu'n llwyr ac maent yn cynnwys offer arbenigol, drysau llydan a mynediad ar y llawr gwaelod ac mae'n enghraifft arall o'r modd y mae sefydliadau lleol yn cydweithio i gyflawni pethau mawr."
DaethGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, i'r casgliad: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi medru defnyddio'r nawdd Diogelwch Cymunedol i gefnogi'r fenter oherwydd ei fod yn sefyllfa arbennig ac rydym yn gobeithio cymryd rhan mewn prosiect tebyg yn Ynys Môn.
"Y mae tystiolaeth glir bod systemau taenellu yn atal tanau rhag lledaenu, ac yn gwella diogelwch tân yn y cartref y sylweddol drwy atal marwolaethau neu anafiadau difrifol o ganlyniad i dân. Mae Cymru'n arwain y ffordd drwy Lywodraeth Cymru o ran creu rheoliadau a fydd yn ei gwneud hi'n orfodol i bobl osod systemau taenellu mewn cartrefi newydd neu gartrefi sydd wedi eu trawsnewid.
"Mae synwyryddion mwg yn systemau rhybuddio rhagorol ac maent yn hanfodol er mwyn eich rhybuddio am dân, ond mae systemau taenellu integredig, pan gânt eu seinio, yn seinio'r larwm mwg ac yn diffodd y tân ogystal, ac felly maent yn rhybuddio ac yn amddiffyn y trigolion gan roi rhagor o amser iddynt fynd allan yn ddiogel."
Er mwyn helpu i amddiffyn trigolion o dân yn y cartref mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. I gofrestru am archwiliad, galwch ein llinell ffôn rhad ac am ddim ar 0800 169 1234, neu ewch i'n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk