Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl sy’n defnyddio canhwyllau i gadw’n ddiogel yn ystod wythnos diogelwch canhwyllau.
PostiwydMae wythnos Diogelwch Canhwyllau yn dechrau heddiw ac mae pobl yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i gymryd sylw o gynghorion diogelwch.
Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Mae pobl yn tueddu i ddefnyddio canhwyllau yn amlach dros fisoedd y gaeaf ac yn enwedig dros y Nadolig. Maent yn cael eu defnyddio i oleuo, gwresogi neu addurno ystafelloedd. Mae'n hynod bwysig fod pobl yn ymwybodol o beryglon defnyddio canhwyllau.
"Rydym yn cynghori pobl i ddefnyddio canhwyllau bach batri yn hytrach na thanio canhwyllau. Mae'r canhwyllau bach electrig hyn yr un mor effeithiol â chanhwyllau iawn i greu naws arbennig ac yn llawer mwy diogel."
Mae'n hynod bwysig fod pobl yn dilyn y cynghorion diogelwch canlynol pan fyddant yn defnyddio canhwyllau:
- Peidiwch byth â gadael cannwyll a chofiwch ei diffodd cyn mynd i gysgu
- Gwnewch yn siŵr fod y gannwyll yn sefyll yn syth a'i bod yn sownd fel na fydd yn syrthio - mae canhwyllau peraroglus yn troi'n hylif felly llosgwch hwy mewn cynhwysydd gwydr neu fetel addas sy'n gallu gwrthsefyll y gwres ac na all yr hylif ddianc ohono.
- Gosodwch ganhwyllau ar arwyneb sy'n gwrthsefyll gwres bob amser
- Cadwch ganhwyllau yn glir o ddrafftiau, llenni a ffynonellau gwres uniongyrchol neu olau'r haul
- Gadewch o leiaf 10cm rhwng canhwyllau a pheidiwch byth â'u gosod o dan silffoedd nac unrhyw arwyneb arall
- Diffoddwch ganhwyllau cyn iddynt losgi'r daliwr
- Llosgwch bob cannwyll allan o gyrraedd plant
- Diffoddwch ganhwyllau cyn i chi eu symud
- Gosodwch larwm mwg yn eich cartref ond ystyriwch gael larwm mwg ychwanegol mewn ystafelloedd lle bydd canhwyllau'n cael eu llosgi'n rheolaidd
- Peidiwch â gwyro dros ganhwyllau
- Ni ddylid defnyddio canhwyllau ar gyfer y tu allan i mewn yn y tŷ
- Peidiwch â chwarae gyda chanhwyllau drwy roi unrhyw beth arall yn y cwyr poeth. -
Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, gawl linell rhadffôn 24 awr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi HFSC ar ddechrau'r neges.