Ymweld â chartrefi myfyrwyr i gynnig cyngor diogelwch tân
Postiwyd
Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn adeiladu ar lwyddiant eu hymgyrch diogelwch tân i fyfyrwyr drwy gydweithio gyda phrifysgolion lleol er mwyn helpu i gadw myfyrwyr yn ddiogel rhag tân yn y cartref.
Y mae diffoddwyr tân wedi bod yn hybu diogelwch tân ymhlith myfyrwyr ym mhrifysgolion Bangor a Glyndŵr ers rhai blynyddoedd bellach, ond bydd yr ymgyrch ddiweddaraf yn canolbwyntio ar fyfyrwyr mewn llety preifat.
Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda phrifysgolion Bangor a Glyndŵr yn ystod ein hymgyrch myfyrwyr ers rhai blynyddoedd, gan siarad gyda myfyrwyr mewn ffeiriau a rhoi cyngor i'r rhai sydd yn byw yn y neuaddau preswyl.
"Mae'r ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac rydym wedi cael ymateb gwych. Eleni fe benderfynom adeiladu ar y llwyddiant hwn a thargedu myfyrwyr mewn llety preifat - yn gynharach eleni fe gynhaliom fforymau ar gyfer landlordiaid lle roesom gyngor a gwybodaeth i landlordiaid. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn ymweld â myfyrwyr yn eu cartrefi ac yn cynnig cwpanau am ddim i bawb sydd yn cymryd mantais o'n harchwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim.
"Byddwn hefyd yn hybu'r ymgyrch ar Facebook, gan ofyn i fyfyrwyr glicio ar ddolen arbennig i gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref - bydd diffoddwyr tân yn ymweld â chartrefi i weld pa mor ddiogel ydynt a rhannu cyngor am brif achosion tanau yn cynnwys gorlwytho lidiau estyn, canhwyllau a choginio a rôl bod yn yfed er mwyn cadw myfiwr sydd yn astudio yng Ngogledd Cymru mor ddiogel â phosib."
Meddai Jo Smith, Rheolwr Iechyd a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Glyndŵr: "Y mae diogelwch ein myfyrwyr yn bwysig dros ben, boed hynny yn neuaddau preswyl y Brifysgol neu mewn lletyai preifat.
"Y mae'n rhaid i landlordiaid sydd yn hysbysebu gwybodaeth ar yr adran tai myfyrwyr ar wefan y Brifysgol feddu ar Drwydded HMO neu berthyn i Gynllun Achredu Landlordiaid Cymru, prosiect cenedlaethol sydd yn cael ei redeg gan y 22 Awdurdod Lleol.
"Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at gael parhau â'r gwaith yn y dyfodol."
Fe ychwanegodd Steph Barbaresi, Pennaeth yr adran Cefnogaeth i Fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor: "Rydym yn falch ein bod yn cael cyfle i weithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel y gallwn atgoffa myfyrwyr am bwysigrwydd diogelwch tân. Rydym yn gobeithio y bydd yr archwiliadau diogelwch tân yn atgoffa'r myfyrwyr am bwysigrwydd diogelwch tân."
Y mae archwiliadau diogelwch tân yn y cartref ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru, yn ogystal â myfyrwyr - am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim a chyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref ffoniwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi HFSC ar ddechrau'r neges.