Streic ddiweddaraf y diffoddwyr tân yn dod i ben a’r ‘gwasanaeth arferol’ yn cael ei adfer
Postiwyd
Daeth y cyfnod o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 8am y bore yma (Dydd Llun 4ydd Tachwedd).
Dyma'r trydydd cyfnod o weithredu diwydiannol gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) sydd yn protestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau. .
Fe ddywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rheoli ei wasanaeth yn effeithiol yn ystod y streic.
"Yn amlwg roedd llai o adnoddau ar gael i ni, ond fe roesom ein cynlluniau parhad busnes ar waith yn effeithiol ac yn syth wedi i'r streic ddod i ben fe lwyddom i adfer y gwasanaeth arferol yn gyflym a diogel.
"Hoffwn fachu ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch - nid oedd yn rhaid i ni fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn ystod y ddwy awr.
"Er bod y streic drosodd, nid yw'n glir hyd yma a fydd rhagor o weithredu diwydiannol ac felly hoffwn atgoffa pobl ei bod hi'n bwysig dros ben eu bod yn cymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd.
Y mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk <>