Tân mewn tŷ ym Mae Colwyn
PostiwydMae Swyddogion Tân yn rhybuddio am bwysigrwydd larymau mwg wedi tân mewn tŷ ym Mae Colwyn yn ystod oriau mân y bore, Ddydd Mawrth 10fed Rhagfyr.
Cafodd criwiau o Fae Colwyn, Abergele a'r Rhyl eu galw i'r eiddo ar Woodland Road East am 1.34 y bore ac fe ddefnyddiodd y criwiau ddwy bibell ddŵr a phedair set o offer anadlu i ddiffodd y tân.
Roedd larymau mwg wedi cael eu gosod yn yr eiddo ond roedd y batri wedi cael ei dynnu o un o'r larymau. Gyda diolch llwyddodd y pump o bobl a oedd yn byw yn yr eiddo i fynd allan o'r eiddo yn ddianaf ond fe achosodd y tân ddifrod i'r groglofft a difrod dŵr yng ngweddill yr eiddo.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan system wifrio ddiffygiol.
MeddaiJohn Morgan, Rheolwr Ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydych ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref os nad oes gennych chi larwm mwg gweithredol. Pan fydd tân yn cynnau, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i fynd allan yn ddiogel. Gall larwm mwg gweithredol roi amser i chi fynd allan, aros allan a galw 999.
"Mae'n bwysig bod gennych gynllun dianc o dân a'ch bod wedi ei ymarfer. Bydd hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y byddwch yn llwyddo i ddianc o'r tân yn ddiogel pe byddai'r gwaethaf yn digwydd. Y mae hefyd yn bwysig eich bod yn mynd i'r arfer o ddiffodd offer trydanol a chau drysau cyn mynd i'r gwely er mwyn atal lledaeniad mwg ac amddiffyn eich llwybrau dianc.
"Am gyngor pellach am ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim yn eich cartref, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim. I gofrestru, galwch ein rhif rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk"