Tân mewn uned ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
PostiwydAr y funud mae diffoddwyr tân yn tampio'r marwor ar y safle wedi i 1000 tunnell o sglodion pren fynd ar dân yn yr uned ar Weighbridge Road, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Cawsant eu galw i'r tân am 10.10 o'r gloch heddiw (Dydd Mercher Rhagfyr 18).
Fe anfonwyd pedwar criw o Lannau Dyfrdwy, y Fflint, Wrecsam a Chaer ynghyd â'r Peiriant Cyrraedd yn Uchel o Wrecsam a'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl.
Llwyddodd y criwiau i ddiffodd y tân gan ddefnyddio prif bibellau a phibellau dŵr. Bu'n rhaid iddynt hefyd ddefnyddio cloddiwr i symud y sglodion pren.
Nid oes sôn bod unrhyw un wedi ei anafu ar hyn o bryd.