Y mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru unwaith eto'n erfyn ar i'r cyhoedd 'gymryd pwyll arbennig' yn nhermau diogelwch tân yn y cartref a diogelwch ffyrdd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y byddai diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol dros yr ŵyl;
PostiwydY mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru unwaith eto'n erfyn ar i'r cyhoedd 'gymryd pwyll arbennig' yn nhermau diogelwch tân yn y cartref a diogelwch ffyrdd wedi i Undeb y Brigadau Tân gyhoeddi y byddai diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol dros yr ŵyl;
- Noswyl Nadolig,Nos Fawrth 24ain Rhagfyrrhwng 7.00pm a hanner nos
- Nos Galan,Nos Fawrth 31ain Rhagfyrrhwng 6.30pm a 12.30am y bore canlynol
- Dydd Gwener 3ydd Ionawr rhwng 630am a 8.30am
Fe bwysleisiodd y Prif Swyddog Tân, Simon Smith: " Ar yr achlysur hwn mae Undeb y Brigadau Tân wedi dewis strecio dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ar adeg pan fydd nifer o bobl yn cymdeithasu ac yn yfed, neu'n coginio ac yn dathlu gyda ffrindiau a theulu yn y cartref - sydd yn golygu y bydd pobl yn fwy agored i beryglon..
"Dros yr ŵyl mae galwadau i'r gwasanaeth tân ac achub ar eu uchaf - fel arfer mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymateb i un neu ddau o danau yn y cartref bob dydd, ond dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd mae hyn yn cynyddu i 5 tân y diwrnod.
"Mae hi bob amser yn bwysig i bobl gymryd sylw o ddiogelwch tân yn y cartref, yn ogystal â diogelwch ffordd, ond mae hyn yn bwysicach fyth yn ystod streic.
"Mae'r neges ynglŷn â chymryd pwyll arbennig a meddwl ddwywaith am y math o sefyllfaoedd peryglus y gallant eu hwynebu yn neges ddifrifol iawn. Yn anffodus, mae'n debygol na fyddwn yn gallu ymateb yn yr un modd ag arfer yn ystod y streic, felly atal sydd orau - gofynnwn i bawb gymryd camau syml i gadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel;
- Gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg a phrofwch y larwm yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio
- Peidiwch ag yfed a choginio - mae'n gyfuniad peryglus. Mae pawb yn mwynhau llymaid dros y Nadolig ond byddwch yn gyfrifol a pheidiwch â gadael bwyd yn coginio. Os ydych yn llwglyd ar ôl noson allan prynwch tecawê neu gwnewch frechdan - peidiwch â nôl eich sosban sglodion na gadael bwyd yn coginio.
- Ceisiwch osgoi siwrneiau diangen - os byddwch yn ddigon anffodus i ddioddef gwrthdrawiad ffordd mae'n bosib na fyddwn yn eich cyrraedd mor gyflym ag arfer
- Diffoddwch unrhyw gyfarpar trydanol nad ydych yn ei ddefnyddio cyn i chi fynd i'r gwely a chaewch bob drws - gwnewch yn siŵr bod gennych gynllun dianc o dân
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd defnyddiau ysmygu yn iawn a chymrwch bwyll gyda chanhwyllau - maent yn edrych yn neis iawn ond maent yn hynod beryglus, peidiwch â'u gadael yn llosgi hen neb i gadw llygaid arnynt a pheidiwch â'u gosod yn agos at ddefnyddiau hylosg.
- Glanhewch ei simnai a defnyddiwch gard tân ar danau agored
- Os bydd tân yn cynnau - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999. Peidiwch â chael eich temtio i daclo'r tân eich hun."
Mae cyngor diogelwch a chyfarwyddyd ar gael i'r cyhoedd a busnesau ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymruwww.gwastan-gogcymru.org.uk a'u safleoedd rhwydweithio cymdeithasol ar Facebook www.facebook.com/Northwalesfireservice a Twitter @NorthWalesFire (#takeextracare), yn ogystal â'r newyddion lleol.
Y mae pawb yn hoffi mwynhau eu hunain dros y Nadolig ond rydym yn eich cynghori i gadw diogelwch tân mewn cof drwy ddilyn eich cynghorion syml ar sut i ddathlu'n ddiogel dros y Nadolig. Mae'r cynghorion ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'u safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.
Y mae disgwyl i nifer uchel o staff y gwasanaeth tân ac achub brotestio ac o ganlyniad bydd gostyngiad yn yr adnoddau ni ar gael i ni. O ganlyniad, ni fydd yn bosib i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddarparu ymateb brys yn yr un modd ag arfer - bydd yn parhau i ymateb i alwadau brys ond bydd yn rhoi blaenoriaeth i anfon adnoddau i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.
Bu i'r Prif Swyddog Tân Simon Smith gysuro'r cyhoedd: " Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith i barhau i ddarparu gwasanaeth drwy gydol y streic" ond fe rybuddiodd " mae'n bosib y bydd y gwasanaeth yn gyfyngedig ar adegau dan yr amgylchiadau".
" Bydd trefniadau parhad busnes y Gwasanaeth yn helpu i adref y gwasanaethau arferol yn ddiogel a chyflym wedi'r cyfnod o weithredu diwydiannol."
Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi ac yn parchu pryderon y staff sydd wedi arwain at eu penderfyniad i brotestio'n gyfreithlon yn y modd hwn, mae gennym ddyletswydd a rhwymedigaeth i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd, cyn belled â bod hynny'n ymarferol bosib. Dyma anghydfod rhwng Undeb y Brigadau Tân (FBU) a'r Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr dros y newidiadau arfaethedig i drefniadau pensiwn. Fodd bynnag, prif flaenoriaeth yr Awdurdod yw sicrhau diogelwch y cyhoedd."
Gofynnir i unrhyw un sydd am alw'r gwasanaeth tân ac achub ynglŷn â mater nad ydyw'n fater brys yn ystod yr achos o weithredu diwydiannol i aros hyd nes i'r gwasanaeth arferol gael ei adfer cyn gwneud yr alwad honno .
Sut allwch chi gadw'n ddiogel rhag tân? Dyma air i gall ar ddiogelwch tân;
Larymau Mwg - Gosodwch larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref a phrofwch hwy yn rheolaidd. Dylid gwirio'r batris unwaith yr wythnos a'u newid o leiaf unwaith y flwyddyn.
Coginio - Cymrwch ofal arbennig wrth goginio. Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio. Peidiwch â llenwi eich sosban tsips fwy na thraean. Peidiwch byth â rhoi bwyd i mewn yn eich sosban tsips os bydd yr olew yn mygu - trowch y gwres i ffwrdd a gadewch iddo oeri. Peidiwch byth â choginio os ydych dan ddylanwad alcohol.
Canhwyllau -Peidiwch â defnyddio canhwyllau yn rhy agos at lenni. Peidiwch â gadael canhwyllau heb neb i gadw llygaid arnynt. Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau'n cael eu diffodd yn gywir bob amser.
Matsis- Cadwch fatsis a thanwyr ymhell o gyrraedd plant.
Defnyddiau Ysmygu- Defnyddiwch flwch llwch priodol bob amser. Diffoddwch ddefnyddiau ysmygu yn gywir. Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.
Cynllun Dianc- Cynlluniwch eich llwybr dianc gyda phawb. Cofiwch gynnwys plant a'r henoed bob amser. Caewch bob drws gyda'r nos a diffoddwch yr holl gyfarpar trydanol yn y plwg oni bai eu bod yn cael eu defnyddio.
Tanau Agored- Rhowch gard dân o flaen pob tân agored. Peidiwch â sychu dillad yn rhy agos i dân agored.
Trydan - Newidiwch unrhyw geblau sydd wedi gwisgo neu dreulio. Defnyddiwch y ffiwsiau cywir mewn offer trydanol domestig. Profwch flancedi trydan unwaith y flwyddyn. Peidiwch â gorlwytho socedi.
Diogelwch tân i fusnesau yn ystod y gweithredu diwydiannol:
Er mwyn sicrhau bod eich adeilad yn parhau i fod yn ddiogel rhag tân yn ystod achos i weithredu diwydiannol:
Yn gyntaf, dylai perchnogion busnes adolygu eu Hasesiad Risgiau Tân ac, os bydd angen gwneud newidiadau, rhoi'r rhain ar waith ar unwaith. Yn ogystal â hyn, bydd angen cymryd rhagofalon i atal tanau rhag cynnau. Gall hyn fod cyn symled â cherdded o gwmpas yr adeilad ar ddiwedd diwrnod gwaith er mwyn gwneud yn siŵr nad oes defnyddiau hylosg yng nghyffiniau'r adeilad.
Bydd angen i berchnogion wneud yn siŵr bod holl aelodau'r staff yn ymwybodol o'r gweithdrefnau ar gyfer lleihau'r tebygolrwydd o dân a bod pawb yn parhau i fod yn effro i beryglon tân. Bydd yr hyn sydd angen i berchnogion unigol eu gwneud yn ddibynnol ar eu Hasesiad Risgiau Tân eu hunain.
Yn ystod unrhyw gyfnod o weithredu diwydiannol, y 'Person Cyfrifol' fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gynnal y rhagofalon tân yn yr adeilad fusnes, ac felly cynghorir perchnogion busnes i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, er mwyn gwneud yn siŵr bod staff, ymwelwyr a'r adeilad yn ddiogel.