Y streic Noswyl Nadolig yn dod i ben a’r gwasanaeth arferol yn cael ei adfer
PostiwydDaeth y cyfnod o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am hanner nos (Dydd Mawrth 24ain Rhagfyr)
Dyma oedd y streic ddiweddaraf i gael ei threfnu gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) i brotestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.
Dywedodd y Prif Swyddog TânSimon Smithei fod yn hapus gyda'r modd y llwyddodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ymdopi yn ystod y streic.
"Fel y disgwylid, fe welsom leihad sylweddol yn yr adnoddau oedd ar gael i ni. Fodd bynnag, fe weithiodd ein trefniadau rheoli parhad busnes yn effeithiol ac wedi'r streic fe lwyddom i sicrhau bod y gwasanaeth arferol yn cael ei adfer yn gyflym a diogel.
"Unwaith eto, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch
"Er bod y streic yma drosodd, hoffwn atgoffa pobl ei bod yn hynod bwysig iddynt gymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd yn enwedig dros y Nadolig- bydd diffoddwyr tan yn mynd ar streic eto Nos Galan rhwng 630pm a hanner awr wedi hanner nos yn ystod oriau mân y flwyddyn newydd."
"Dymunaf Nadolig llawn a diogel i bawb."
Y mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk