Tân mewn man storio ceir yn Sandycroft
PostiwydCafodd diffoddwyr tân eu galw i Prince William Avenue, Sandycroft am 23.43 o'r gloch heddiw i ddelio gyda thân a oedd yn effeithio ar 52 o geir mewn man storio ceir sydd wedi eu hadfer wedi damweiniau.
Fe anfonwyd dau griw o Lannau Dyfrdwy a chriw o Fflint a Chaer ynghyd â'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl. Fe ddefnyddiwyd offer anadlu, dwy bibell ddŵr a phedair prif bibell i ddelio gyda'r tân.
Credir bod y tân wedi ei achosi gan nam trydanol yn un o'r cerbydau a oedd yn cael ei storio yno.