Rhybuddio pobl i adael eu cartrefi oherwydd llifogydd
PostiwydY mae trigolion sydd yn byw yn ardal Maes Glas a Bagillt, Sir y Fflint ac ardal y Pwynt Du yn cael eu hannog i adael eu cartrefi oherwydd llifogydd o ganlyniad i wyntoedd cryfion a llanw uchel.
Disgwylir y bydd y cyfnod peryglus rhwng 11.45am a 12.15pm.
Y mae'r ardaloedd penodol yn cynnwys Talacre, Ty'n Y Morfa, Glannau Afon Dyfrdwy, Boot, Welston, Walwen a Pharc Busnes Maes Glas .
Gofynnir i bobl symud eitemau pwysig neu werthfawr i fan diogel, gan wneud yn siŵr eu bod hwy a'u teulu yn ddiogel a gwrando ar gyngor gan y gwasanaethau brys.
Y mae Canolfan Hamdden Treffynnon ar Ffordd Parc y Fron yng nghanol y dref yn cael ei defnyddio fel canolfan orffwys i unrhyw un sydd mewn angen.
Os na allwch fynd allan o'ch cartref galwch 101 a bydd trefniadau yn cael eu gwneud ar eich cyfer.