Dyn a dynes yn yr ysbyty wedi tân mewn fflat yng Nghonwy
PostiwydMae dyn a dynes wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân yng Nghonwy.
Galwyd criwiau o Gonwy a Llandudno i'r fflat llawr cyntaf yn Berry Street am 17.18 o'r gloch heno, Nos Wener 15fed Chwefror.
Cafodd dynes 34 mlwydd oed ei hachub o'r fflat gan ddiffoddwyr tân wedi i berchennog safle masnachol cyfagos seinio rhybudd ar ôl gweld fflamau a mwg yn dod o'r fflat.
Cafodd y ddynes anafiadau difrifol yn y tân ac mae'n derbyn triniaeth yn yr uned gofal dwys ar hyn o bryd.
Llwyddodd y dyn 36 mlwydd oed i ddianc o'r tân ac y mae'n derbyn triniaeth oherwydd ei fod wedi anadlu mwg.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu, dwy brif bibell a chamera delweddu thermol i achub y ddynes a diffodd y tân.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.