Tân mewn uned ddiwydiannol yn Wrecsam
PostiwydGalwyd wyth criw o ddiffoddwyr tân a'r Peiriant ag Ysgol ac Esgynlawr i dân mewn uned ddiwydiannol yn Abbey Road, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam neithiwr (Nos Wener Chwefror 15).
Derbyniwyd yr alwad am 23.52 o'r gloch ac fe anfonwyd criwiau o Wrecsam, Johnstown, Bwcle, Glannau Dyfrdwy, Llangollen a'r Wyddgrug yn ogystal â'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl i ddelio gyda thân mewn ffatri sydd yn cynhyrchu rhodenni dur gloyw. Roedd y safle ar gau ar adeg y tân.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddwy bibell, dwy brif bibell, camerâu delweddu thermol ac wyth set o offer anadlu i ddelio gyda'r tân, a achosodd ddifrod 5% i lawr y ffatri.
Meddai Andy Robb o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
"Cafodd y criwiau eu rhybuddio am y tân gan y system larwm tân awtomatig a'r taenellwyr a oedd wedi eu gosod yn y rhan honno o'r ffatri. Oherwydd eu bod wedi gweithio ni ledaenodd y tân ymhellach nag ystorfa'r ffatri er bod y llawr cyfan wedi ei effeithio gan y mwg.
"Oherwydd bod y criwiau wedi ymateb yn gyflym ni ledaenodd y tân ymhellach."
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.