Nifer o danau eithin yn ein gorfodi i rannu rhybuddion diogelwch
PostiwydMae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar bobl i feddwl am sgil effeithiau tanau glaswellt wedi sawl digwyddiad yn ardal Blaenau Ffestiniog dros yr wythnos ddiwethaf sydd wedi bod yn draul ar ein hadnoddau prin.
Cafodd criwiau eu galw i dri digwyddiad gwahanol mewn ffermydd yn ardal Blaenau Ffestiniog nos Sul (24ain) am18.27, 18.32 a 19.37o'r gloch. Cafodd criwiau'r Blaenau gefnogaeth gan griwiau Porthmadog wrth iddynt weithio'n galed i ddod a'r tanau dan reolaeth.
Cafodd ddiffoddwyr tân eu galw i dri digwyddiad arall neithiwr, Nos Fercher 27ain am 19.23, 19.57 a 21.10 yn ardal Blaenau Ffestiniog.
Mae Kevin Jones, Rheoler y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, yn credu mai'r tywydd sych yw'r rheswm dros y cynnydd mewn tanau gwledig ac y mae wedi digalonni o weld bod cymaint o'r tanau hyn wedi eu cynnau'n fwriadol neu gan dirfeddianwyr a gollodd reolaeth ar y tân wrth geisio llosgi dan reolaeth.
"Mae nifer o bobl o bob cwr o'r rhanbarth wedi rhoi gwybod i ni dros y dyddiau diwethaf eu bod yn bwriadu llosgi dan reolaeth, a hoffwn ddiolch i'r bobl hynny am roi gwybod i ni eu bod yn bwriadu llosgi'n ddiogel a chyfrifol. Yn aml iawn ni fyddwn yn mynychu'r math yma o danau ac er eu bod yn denu sylw'r cyhoedd ar adegau maent fel arfer yn danau yr ydym eisoes yn ymwybodol ohonynt.
"Fodd bynnag, mae'n hawdd iawn colli rheolaeth ar dân os nad oes neb i gadw llygaid arno - gall y tanau hyn ddinistrio eithin a rhedyn dros ardal eang ac yna rydym ni'n cael ein galw i'w diffodd.
"Mae tanau fel hyn yn draul ar ein hadnoddu. Yn aml iawn mae diffoddwyr tân wrthi am gyfnodau maith yn ceisio dod â'r tanau hyn dan reolaeth."
"Yn aml iawn mae'r tanau hyn yn digwydd mewn ardaloedd lle mae'r cyflenwad ddŵr yn brin ac mewn ardaloedd sydd yn anodd eu cyrraedd.
"I leihau nifer y tannu hyn, rydym yn gofyn i dirfeddianwyr roi gwybod i'r ysgafell reoli ar 01745 535805 ymhle y maent yn bwriadu llosgi dan reolaeth - bydd hyn yn ein helpu i atal ein hamser a'n hadnoddau rhag cael eu gwastraffu wrth gael ein galw i dân yn ddiangen.
"Dilynwch y canllawiau isod os ydych yn bwriadu llosgi dan reolaeth:
- - Sicrhewch fod digon o bobl o gwmpas a bod offer digonol ar gael rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân.
- Edrychwch i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu i sicrhau nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt
-Os collwch reolaeth ar y tân cysylltwch â'r gwasanaeth tân yn syth gan roi manylion lleoliad a mynediad.
- Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn arofalu amdano neu beidio â chael digon o bobl i'w gadw dan reolaeth. - Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd yn llwyr cyn gadael a dychwelwch i'r fan y diwrnod canlynol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyw wedi ailgynnau ".
"Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub hefyd yn annog pobl sydd yn ymweld â chefn gwlad i gymryd gofal er mwyn lleihau'r perygl o dân.
"Cofiwch - mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r broblem o danau bwriadol, drwy ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddarganfod union leoliad y tân a chwilio am unrhyw ddrwgweithredwyr.
"Os oes gennych wybodaeth am droseddau o'r fath, fe'ch cynghorwn i alw Taclo'r Taclau'n ddienw ar 0800 555 111."