Achub saith o bobl o dân mewn fflat yn Abermaw
PostiwydHeno fe achubodd ddiffoddwyr tân saith o bobl o dân mewn fflat yn Abermaw.
Galwyd criwiau o Abermaw, Dolgellau a Harlech i'r fflat uwch ben eiddo masnachol ar y Stryd Fawr am 19.39 o'r gloch heddiw, Dydd Iau Chwefror 7.
Dywedodd y ddynes a oedd ar y ffôn nad oedd hi, ei phartner, ei brawd, a'i phedwar o blant yn gallu gadael yr eiddo oherwydd bod y tân yn eu rhwystro rhag defnyddio'r llwybr dianc.
Cafodd y galwr gyngor dianc o dân dros y ffôn gan un o swyddogion yr ystafell reoli cyn i'r saith gael eu hachub yn ddiogel gan ddiffoddwyr tân drwy ffenestr ar y llawr cyntaf.
Fe ddefnyddiodd y criwiau offer anadlu, bibellau cyfaint uchel, prif bibell a chamerâu delweddu thermol i ddiffodd y tân a gychwynnodd yn yr ardal amlbwrpas yn y cyntedd, yn ôl pob tebyg.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yfory.