Gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector cyhoeddus i ddiogelu ein trigolion
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda sectorau Gwirfoddol er mwyn amddiffyn trigolion y rhanbarth.
Mae staff y Gwasanaeth, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Gwirfoddol yn Sir Ddinbych a Chonwy, wedi cynnal gweithdy ar gyfer pobl sydd yn gweithio mewn sefydliadau Sector Gwirfoddol yn y ddwy sir yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl yr wythnos hon.
Meddai Kim Waller, Cydlynydd y Sector Gwirfoddol: "Dyma'r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad fel hwn, sydd yn edrych ar y bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'r sector Gwirfoddol. Ro'n i'n falch iawn bod cynifer o gynrychiolwyr o'r sefydliadau hyn yn bresennol sydd yn amlygu'r ffaith bod lle blaenllaw i ddiogelwch tân o fewn y sefydliadau hyn.
"Rydym am wneud yn siŵr bod pobl yn gwrando ar y sector Gwirfoddol, a'n bod ni fel Gwasanaeth yn manteisio ar bob cyfle posib i ymgysylltu â'r sefydliadau hyn fel y gallant ein helpu i ddatblygu a darparu ein gwasanaethau i drigolion Conwy a Sir Ddinbych.
"Drwy sefydlu partneriaeth gyda sefydliadu gwirfoddol, mae modd i ni rannu ein cyngor a'n offer â'r rhai sydd fwyaf mewn angen.
Eglura Debbie Doig Evans a Sabina Dunkling, Swyddogion y prosiect creu'r cysylltiadau gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Chonwy:
"Nod y prosiect yw sicrhau bod y Trydydd Sector yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus. Yn aml iawn mae staff a gwirfoddolwyr y Trydydd Sector yn y sefyllfa orau i wneud yn siŵr bod y bobl fwyaf bregus yn derbyn gwasanaethau addas a thrwy gydweithio gyda'r gwasanaeth tân gallwn wneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn gobeithio y gallwn drefnu rhagor o sesiynau fel hyn a pharhau i ddatblygu gwasanaethau ar y cyd."