Tân yn Ysbyty Maelor Wrecsam
PostiwydFe anfonwyd pedwar peiriant i dân yn Ysbyty Maelor Wrecsam am 23.39 o'r gloch nos Wener 8fed Chwefror.
Roedd tri chriw o Wrecsam ac un o Johnstown yn bresennol. Daethent o hyd i dân bychan ar y llawr gwaelod yn yr ysbyty a gafodd ei ddiffodd drwy ddefnyddio pedwar set o offer anadlu ac un bibell ddŵr.
Ar y cyfan, bu'n rhaid i 27 o gleifion adael yr ysbyty wedi i staff seinio rhybudd ar ôl darganfod mwg.
Cychwynnodd y tân ar y llawr gwaelod mewn ystafell wag ger y ward i gleifion allanol.
Fe aeth y mwg i fyny i'r llawr cyntaf gan effeithio ar ddwy ward yn bennaf, Ward Bromfield a Ward Bonney, a bu'n rhaid i 24 o gleifion adael yr ysbyty. Bu'n rhaid symud tri baban o'r uned gofal arbennig yn ogystal, rhag ofn.
Cafodd y babanod eu cludo yn ôl i'r uned gofal arbennig wedi i'r tân gael ei ddiffodd, a chafodd y cleifion eraill driniaeth mewn man arall yn yr ysbyty.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill ond credir ei fod yn ddamweiniol.