Datganiad a gyhoeddwyd yn y Daily Post Ddydd Sadwrn 16 Mawrth
PostiwydDdydd Sadwrn, Rhagfyr 1, fe gyhoeddom honiadau gan dri diffoddwr tân bod y lleihad yn nifer y personél rheng flaen llawn amser a rhan amser wedi gadael gorsafoedd tân yng Ngogledd Cymru heb ddarpariaeth addas ar adegau.
Roedd yr erthyglau ar y dudalen flaen ac ar ddwy dudalen y tu mewn i'r papur yn cynnwys datganiad ganRuth Simmons, Prif Swyddog Tân ac Achub Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, lle dywedodd hi fod y Gwasanaeth wedi parhau i ymateb yn brydlon i ddigwyddiadau a bod yr honiadau am lefelau staffio yn anghywir.
Fodd bynnag, ni chyhoeddwyd ymateb manylach gan y gwasanaeth tân ac achub lle soniwyd yn benodol am bob pwynt yn unigol, er ei fod wedi cael ei gyhoeddi yn y Daily Post Ddydd Llun Rhagfyr 3 ac ar ein gwefan yn syth wedi hynny.
Yn benodol, yn wahanol i'r hyn a awgrymwyd yn yr erthyglau, roeddem am bwysleisio bod yr uned achub o ddŵr o Fetws-y-coed wedi ei anfon i'r llifogydd yn Llanelwy ym mis Tachwedd. At hynny, mae'r gwasanaeth tân ac achub yn pwysleisio nad ydi menig sydd yn cael eu defnyddio i ddiffodd tanau fyth yn cael eu hailddefnyddio os ydynt yn anniogel neu os nad oes modd eu trwsio, fel yr awgrymwyd yn yr erthyglau.
Rydym yn derbyn y sicrwydd hwnnw'n llwyr ac yn ymddiheuro am yr embaras a achoswyd, ac am beidio â'i gwneud yn glir mai honiad nid ffaith oedd y pennawd ar y dudalen flaen.