Y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn apelio ar drigolion lleol i’w helpu i fynd i’r afael â thanau bwriadol yng Nghaernarfon
Postiwyd
Mae Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol Gogledd Cymru yn erfyn ar i drigolion yng Nghaernarfon i atal y duedd o gynnau tanau bwriadol yn ardal Caernarfon rhag troi'n broblem ddifrifol.
Y mae diffoddwyr tân wedi ymateb i naw o danau bwriadol ers 1af Ebrill. Roedd y tanau hyn yn danau glaswellt ac eithin a ddigwyddodd mewn ardaloedd gwahanol yn cynnwys Ffordd Llanberis, Ffordd Bangor, Maesincla, Ffordd Waunfawr a Lôn Arfon.
Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y tanau bwriadol hyn ers 1af Ebrill, ac rydym yn gobeithio mynd i'r afael â'r broblem cyn iddi gychwyn, drwy addysgu pobl ifanc am ganlyniadau cynnau tannau bwriadol ac apelio ar i drigolion lleol awchwn am ddrwgweithredwyr.
"Rydym wedi buddsoddi mewn gweithgareddau dargyfeiriol yn yr ardal ac rydym yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i rannu ein negeseuon.
"Hoffwn fachu ar y cyfle i erfyn ar i rieni fod yn ymwybodol o ble mae eu plant yn mynd a phwyso arnynt bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.
"Mae tanau bwriadol fel tanau glaswellt yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau, ac yn aml iawn mae ein criwiau yn treulio oriau yn ceisio dod â'r tanau hyn dan reolaeth. Gall hyn ein hatal rhag mynychu argyfyngau brys.
"Cofiwch - mae gynnau tanau bwriadol yn drosedd ac rydym yn cydweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i roi terfyn ar danau bwriadol, gan ddefnyddio hofrennydd yr heddlu i ddod o hyd i danau a chwilio am ddrwgweithredwyr.
Cynghorir unrhyw un sydd gan wybodaeth am droseddau o'r fath gysylltu â Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111."