Tân ar Ystâd Ddiwydiannol ym Mae Cinmel
PostiwydCafodd saith criw o ddiffoddwyr tân o'r Rhyl, Abergele, Prestatyn a Bae Colwyn eu galw i dân mewn uned ffatri yn Ystâd Ddiwydiannol Tir Llwyd, Bae Cinmel am 9.23 o'r gloch y bore yma, Dydd Mercher Ebrill 17.
Pan oedd y tân ar ei anterth fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddwy bibell ddŵr, un prif bibell a phedwar set o offer anadlu i ddelio gyda'r tân, a oedd dan reolaeth erbyn 12.40 o'r gloch.
Fe achosodd y tân ddifrod sylweddol i'r uned.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.