Llifogydd yng Ngogledd Cymru (diweddariad am 9.00 o’r gloch)
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd wedi cael ei alw i nifer o lifogydd y bore yma (15fed Mai) - yn bennaf roedd y digwyddiadau'n ymwneud â dŵr wyneb ac ni chafodd cartrefi nac adeiladau eu heffeithio'n ddifrifol.
Wrecsam yw'r ardal sydd wedi dioddef y llifogydd gwaethaf, er bod Cyfoeth Naturiol Cymru / Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion ar gyfer ardaloedd eraill.
Yn Froncysyllte ger Llangollen, cafwyd llifogydd sylweddol ar yr A5 ac nid oes modd i geir ddefnyddio'r ffordd. Am 7.11 o'r gloch y bore yma fe anfonwyd injan dân o Langollen er mwyn i ddiffoddwyr tân wthio car i fan diogel ar ôl i'r gyrrwr geisio gyrru trwy lifddwr.
Am 6.51 o'r gloch, fe anfonwyd dau injan dân o Wrecsam i Lambourne Court i bwmpio llifddwr o eiddo.
Am 7.54 o'r gloch galwyd swyddog tân i eiddo ar Ffordd Bethania, Acrefair lle'r oedd bagiau tywod yn cael eu defnyddio.
Am 7.47 o'r gloch, fe anfonwyd injan dân o Wrecsam i Hightown Road lle'r oedd nifer o bobl wedi gofyn am fagiau tywod ar ôl i'w cartrefi gael eu heffeithio gan y llifogydd. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ein cynorthwyo i reoli traffig yn yr ardal.
Cynghorir y cyngor i gysylltu gyda Chyngor Sir Wrecsam am fagiau tywod gan nad oes gan y gwasanaeth tân ac achub stoc o fagiau tywod.
Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru / Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a'r gwefannau canlynol;
www.environment-agency.wales.gov.uk
www.naturalresourceswales.gov.uk
/keeping-you-safe/near-water/advice.aspx?lang=cy