Seremoni Wobrwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Postiwyd
Fe gyflwynodd Arglwydd Raglaw Gwynedd, Ei Anrhydedd Huw Morgan Daniel, Fedalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yn ystod seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd yng Ngorsaf Dân Gymunedol y Rhyl Ddydd Ddydd Mercher 15 Mai.
Mae'r Medalau am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw yn cael eu cyflwyno i ddiffoddwyr tân gan un o Gynrychiolwyr Ei Mawrhydi i gydnabod 20 mlynedd o wasanaeth.
Meddai Simon Smith, Prif Swyddog Tân : "Mae derbyn medal yn achlysur pwysig iawn i bob diffoddwr tân ac mae'r seremoni hwn yn cynrychioli dros 100 mlynedd o ymroddiad ac ymrwymiad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Dylai pob un ymfalchïo yn y ffaith eu bod wedi derbyn y Fedal am Wasanaeth Hir ac Ymddygiad Clodwiw neu Wobr am Wasanaeth Hir. "
Cafodd tystysgrifau eu cyflwyno i gydnabod gwaith ar y cyd yn ystod y llifogydd difrifol yn 2012 yn ogystal.