Wal yn dymchwel yn Rhuthun
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrthi ar hyn o bryd yn ymdrin â digwyddiad yn Rhuthun pan ddisgynnodd wal ar lwybr cyhoeddus ger Stryd y Felin.
Anfonwyd peiriannau yno o Ruthun a Dinbych am 13.10 o'r gloch heddiw (Dydd Gwener 17 Mai).
Mae cryn dipyn o rwbel cerrig oherwydd i'r wal ddisgyn, ac mae'r diffoddwyr tân yn gweithio gydag asiantaethau partner, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, i ymdrin â'r digwyddiad.
Mae dau gi chwilio ac achub wedi eu hanfon i weld a oes unrhyw un wedi ei anafu o dan y rwbel ac mae trefniadau'n cael eu gwneud i sicrhau nad yw'r wal yn achosi mwy o berygl i'r cyhoedd.
Mae'n ymddangos nad oes unrhyw un wedi ei anafu.