Tân mewn Parc Busnes yn Nhreffynnon
Postiwyd
Ar hyn o bryd mae diffoddwyr tân yn delio gyda thân y tu allan i uned ym Mharc Busnes Geenfield, Ffordd Bagillt, Treffynnon.
Galwyd criwiau i'r digwyddiad am 10.32 o'r gloch y bore yma ac y mae peiriannau o Lannau Dyfrdwy, Yr Wyddgrug, Prestatyn, Bwcle, Y Fflint a'r Rhyl yn ogystal â'r cludwr ewyn o Lannau Dyfrdwy yn bresennol.
Mae ffordd y glannau ger Parc Busnes Greenfield ynghau ar hyn o bryd.