Tân mewn Parc Busnes yn Nhreffynnon - Diweddariad
PostiwydMae diffoddwyr tân yn parhau i ddelio gyda thân y tu allan i uned ym Mharc Busnes Geenfield, Ffordd Bagillt, Treffynnon.
Mae'r tân a gychwynnodd mewn ystorfa y tu allan i'r ffatri bellach yn effeithio ar ffatri sydd yn cynhyrchu cambrenni cotiau.
Cafwyd ffrwydradau o bibelli gwasgeddedig, ond mae'r perygl o ffrwydradau pellach wedi ei leihau.
Mae diffoddwyr tân yn parhau o frwydro yn erbyn y fflamau ac mae mwg yn effeithio ar drigolion lleol a'r ffyrdd. Cynghorir trigolion lleol i beidio â gadael eu cartrefi a chadw ffenestri ynghau oni bai eu bod yn cael eu cynghori fel arall.
Mae ffordd y glannau ger Parc Busnes Greenfield yn parhau i fod ar gau.