Gweithio mewn partneriaeth i hybu Wythnos Diogelwch Ffyrdd yng Nghymru
PostiwydMae staff o'r Tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru ynghyd â phartneriaid o asiantaethau eraill wedi bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd yr wythnos hon fel rhan o Wythnos Diogelwch Ffyrdd yr Undeb Ewropeaidd (6ed - 11eg Mai).
Daeth staff o Wasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, y Canolbarth a'r Gorllewin a'r De at ei gilydd i hybu diogelwch ar y ffyrdd mewn lleoliadau ar draws Cymru drwy gydol yr wythnos. Fe lansiwyd yr ymgyrch yng Nghanolfa Siopa Dôl yr Eryrod yn Wrecsam Ddydd Mawrth 7fed Mai. Cafodd siopwyr gyfle i ddysgu mwy am ddiogelwch drwy nifer o ddulliau rhyngweithiol.
Daeth staff a cherbydau arbenigol gyda hwy sydd wedi eu dylunio i ymgysylltu gyda gyrwyr, yn enwedig gyrwyr ifanc. Cafodd siopwyr gyfle i gymryd rhan mewn gemau gyrru a gwylio DVD sydd yn amlygu peryglon gyrru'n beryglus.
Meddai Paul Scott, Rheolwyr y Tîm Diogelwch Cymunedol: "Rydym yn cymryd rhan yn yr ymgyrch er mwyn ymgysylltu â phobl yn eu cymunedau a'u haddysgu am bwysigrwydd cadw'n ddiogel ar y ffyrdd. Bydd ein criwiau'n amlygu negeseuon allweddol ymysg plant a phobl ifanc megis edrychwch ar ôl eich gilydd, a 'r neges peidiwch â gadael i bethau arwain at ddinistr oherwydd nad ydych yn cymryd sylw, sydd yn canolbwyntio ar yrwyr ifanc a'r effaith y gallant ei gael ar gerddwyr.
"Mae mwy o berygl i bobl ifanc gael eu lladd neu eu hanafu ar ein ffyrdd. Maent i gyfrif am 11% o'r holl drwyddedau gyrru yng Nghymru a thua chwarter yr holl farwolaethau ac anafiadau difrifol. Yn 2011 roedd gyrwyr ifanc i gyfrif am hyd at 37% o'r holl yrwyr a oedd mewn gwrthdrawiad ar ôl bod yn yfed alcohol.
"Rydym yn falch iawn ein bod yn cydweithio gyda'r ddau wasanaeth tân ac achub arall yng Nghymru i amylu'r peryglon hyn i'r cyhoedd, yn enwedig pobl ifanc".
Bydd yr ymgyrch yn parhau'r wythnos hon ac yn ymweld â chanolfan hamdden yn Aberafan Ddydd Mercher, Tonypandy fore dydd Mawrth, Aberdâr brynhawn Mawrth a bydd yn gorffen Ddydd Gwener yng Nghaerdydd yn y b a Phen-y-bont ar Ogwr yn y prynhawn.