Ethol cadeirydd newydd ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
Postiwyd
Etholwyd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, o Gyngor Sir Ddinbych, yn Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod Tân ac Achub, a gynhaliwyd yn Siambr Cyngor, Rhuthun, yn gynharach heddiw (dydd Llun 17eg Mehefin).
Mae'r Cynghorydd Davies yn cymryd lle'r Cynghorydd Aled Morris Jones, o Gyngor Ynys Môn, a fu'n Gadeirydd gyda'r Awdurdod am flwyddyn ac is-gadeirydd am dair blynedd.
Fe gychwynnodd y Cynghorydd Davies ar ei yrfa mewn llywodraeth leol 30 mlynedd yn ôl. Y mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd gyda Chyngor Sir Ddinbych ar ddau achlysur rhwng 1995 a 2013 ac y mae wedi bod yn aelod o'r Awdurdod Tân ac Achub ers 1999.
Dyma oedd ganddo i'w ddweud ar gael ei ethol yn gadeirydd yr Awdurdod am y 12 mis nesaf: " Mae gennym lwybr llafurus o'm blaenau ond rwyf yn mawr obeithio y gallwn gydweithio a defnyddio ein profiad a'r ffeithiau a'r wybodaeth sydd ar gael i ni heddiw er mwyn cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
"Mae'n fraint ac anrhydedd cael ymgymryd â'r rôl hon a thrwy gydweithio effeithiol rwyf yn mawr obeithio y gallaf arwain yr Awdurdod drwy unrhyw heriau sydd i ddod. Ein cyfrifoldeb ni yw darparu gwasanaeth tân ac achub ar draws ardal ddaearyddol eang yma yng Ngogledd Cymru, ac o'r herwydd mae'n rhaid i ni fel Awdurdod fod yn ddigon mawr i ymdopi ond yn ddigon bach i boeni. "
Y Cynghorydd Peter Lewis MBE, o Gyngor Conwy a gafodd ei ethol yn is-gadeirydd.
Fe ymunodd y Cynghorydd Lewis â'r Awdurdod Tân ac Achub yn 2012. Meddai: "Fel is-gadeirydd newydd rwyf yn barod i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi'r Cadeirydd, y Prif Swyddog Tân ac Aelodau'r Awdurdod Tân ac Achub i wneud yn siŵr bod Gogledd Cymru yn lle diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi, ac rwyf yn gwerthfawrogi'r hyder a fynegwyd o ran fy gallu i gyflawni'r rôl hon."