Tân mewn fflat yn Abergele
PostiwydGalwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru oherwydd adroddiadau am dân mewn fflat ar Stryd y Bont, Abergele am 20.54 o'r gloch (18fed Mehefin).
Daeth diffoddwyr tân o Abergele i'r digwyddiad a defnyddiwyd dwy set o offer anadlu a phibell ddŵr i ddiffodd y tân.
Roedd pump o bobl yn dioddef o ychydig o effeithiau anadlu mwg o ganlyniad i'r digwyddiad ac aed a nhw i'r ysbyty. Ymysg y cleifion, roedd gwraig oedd wedi dioddef mân anafiadau hefyd.
Difrod i ran fechan o'r carped ar y llawr cyntaf oedd yr unig ddifrod i'r eiddo.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru wrthi'n ymchwilio ar y cyd i'r digwyddiad.