Dod o hyd i gorff yn dilyn tân yn Llanrwst
Postiwyd
Cafodd criwiau o Lanrwst a Betws Y Coed eu galw i dân mewn byngalo ar wahân yn Llys y Bioden, Llanrwst am 8.20o'r gloch y bore yma, Dydd Mercher Mehefin 26.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân un bibell ddŵr a dau set o offer anadlu i fynd i mewn i'r eiddo a diffodd y tân.
Yn anffodus, daethpwyd o hyd i gorff dyn 97 mlwydd oed yn yr adeilad.
Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd ar y gweill.