Rhybuddio pobl i beidio ag anwybyddu larymau mwg sy’n seinio yn dilyn tân yn yr Wyddgrug
PostiwydMae Uwch Swyddog Diogelwch Tân yn rhybuddio pobl bod anwybyddu larymau mwg pan fyddant yn seinio yn rhoi bywydau yn y fantol.
Galwyd diffoddwyr tân i dân mewn fflat ar Ffordd Dinbych, yr Wyddgrug am 15.58hrs o'r gloch 25 Mehefin wedi i fwyd gael ei adael yn coginio.
Roedd yn fflat yn llawn mwg a chafodd dyn yn ei 30au ei dywys o'r adeilad yn ddiogel.
MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Roedd larymau mwg wedi bod yn seinio yn yr adeilad 20 munud a mwy ac eto ni ffoniodd unrhyw un y gwasanaeth tân ac achub na gadael yr adeilad lle'r oedd nifer o fflatiau a allai fod wedi cael eu heffeithio gan y tân.
"'Yn hytrach, fe gwynodd y preswylwyr am sŵn y larymau. Hap a damwain oedd hi bod y peiriannydd a anfonwyd i archwilio'r larymau yn arfer gweithio i'r gwasanaeth tân a achub fel ymarferwr diogelwch tân a'i fod wedi galw'r gwasanaeth tân ac achub ar unwaith.
"Roedd y sawl a oedd yn byw yn y fflat yn cysgu ar y pryd a ni chafodd ei ddeffro gan y larwm. Ond, ni feddyliodd ei gymdogion y dylid galw am help. Gyda diolch fe gafodd ein diffoddwyr tân wybod am y tân - ond gallai hwn fod wedi bod yn ddigwyddiad trasig iawn.
"Rwyf yn erbyn ar i'r cyhoedd beidio byth ag anwybyddu larymau mwg os ydynt yn seinio - dro ar ôl tro rydym yn gweld sut y gall larymau mwg achub bywydau. Felly cadwch lygaid ar eich cymdogion ac yn yr un modd fe fyddant hwy yn siŵr o gadw llygaid arnoch chi - efallai mai eich bywyd chi fydd yn cael ei achub gan larwm mwg y tro nesaf.
"Mae larymau mwg yn rhoi rhybudd cynnar pan fydd tân i'ch galluogi chi a'ch teulu i ddianc o dân yn ddiogel - mae'r digwyddiad hwn yn dangos pa mor bwysig yw larymau mwg.
"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.
"Yn ystod yr archwiliad bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref i rannu cynghorion diogelwch tân gyda chi, eich helpu i lunio cynllun dianc ac os oes angen byddant hefyd yn gosod larymau mwg newydd yn eich cartref.
"I gofrestru, galwch 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch ebost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk. Bydd aelod o'r gwasanaeth yn cysylltu gyda chi i drefnu archwiliad yn y cartref ar adeg sydd yn gyfleus i chi. "