Tân mewn tŷ yn Minera, Wrecsam
Postiwyd
Y mae diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn delio gyda thân yn New Brighton, Minera, Wrecsam ar hyn o bryd.
Am 10.56pm neithiwr (Dydd Sul , Gorffennaf 14) hysbyswyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod tân mewn tŷ sengl. Y mae chwe phwmp yn bresennol - o Johnstown, Wrecsam, y Waun a Llangollen.
Ni chredir bod unrhyw un wedi ei anafu a llwyddodd pawb i fynd allan o'r eiddo cyn i'r diffoddwyr tân gyrraedd.
Unwaith y caiff y tân ei ddiffodd cynhelir ymchwiliad i geisio dod o hyd i achos y tân.