Tân mewn ffatri yn Oakenholt - diweddariad
Postiwyd
Cafodd pedair injan dân, y Peiriant Cyrraedd yn Uchel a'r Uned Meistroli Digwyddiadau eu galw i dân yn Chester Road, Oakenholt Ddydd Sul 21ain Gorffennaf.
Derbyniwyd yr alwad am 1.11pm heddiw ac fe anfonwyd criwiau o Dreffynnon, Glannau Dyfrdwy, y Fflint, y Peiriant Cyrraedd yn Uchel o Wrecsam a'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl i'r digwyddiad.
Roedd y tân dan reolaeth erbyn 5.38pm.
Sefydlwyd bod y tân wedi ei achosi gan hancesi papur a oedd yn sownd mewn peiriant ac yn rhwbio yn erbyn ei gilydd. Fe ledaenodd y tân dros 50 medr sgwâr ond ni achoswyd difrod i strwythur yr adeilad.
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân offer anadlu a 4 pibell ddŵr a 3 jet amddiffynnol i ddiffodd y tân.