Tân mewn ysgubor yn Rhuthun
PostiwydY mae diffoddwyr tân wrthi'n delio gyda thân mewn ysgubor yn Llanrhydd, Rhuthun.
Galwyd criwiau i'r tân am 06.05 o'r gloch ac fe anfonwyd pedwar injan o Ruthun, y Fflint, Corwen a Bwcle i'r fan.
Ar gyrraedd roedd yr ysgubor, a oedd yn cynnwys 20 tunnell o wair a bwyd, yn wenfflam. Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair pibell ddŵr a dwy set o offer anadlu i ddiffodd y tân.
Tynnwyd cymaint o wellt â phosibl allan o'r ysgubor er mwyn atal y tân rhag lledaenu ymhellach.
Nid yw achos y tân wedi ei benderfynu eto.