Disgyblion Holt yn ennill cystadleuaeth llunio poster
Postiwyd
Yn ddiweddar fe aeth Swyddogion Tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i Ysgol Gynradd Holt, Wrecsam i gyflwyno gwobrau i enillwyr eu cystadleuaeth llunio poster.
Fe enillodd Amy a Max y wobr gyntaf ar ôl i'w posteri hwy gael eu dewis o blith cannoedd o bosteri a dderbyniwyd o bob cwr o'r Gogledd. Roedd yn rhaid i'r plant ddylunio poster am yr effaith y mae tanau bwriadol yn ei gael a pham y dylai plant beidio â chynnau tanau yng nghefn gwlad.
Fe gyflwynwyd iPod shuffle i'r plant o flaen eu ffrindiau yn ystod y gwasanaeth boreol.
Kevin Jones, Rheolwr y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol a gyflwynodd y wobr. Meddai: "Rydym yn falch iawn bod Ysgol Holt yn ogystal ag ysgolion eraill ar draws y rhanbarth wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Nod y gystadleuaeth oedd addysgu plant am ddiogelwch tân mewn ffordd hwyliog - rydym yn mawr obeithio y byddant yn cadw'r negeseuon diogelwch mewn cof ar gyfer y dyfodol."