Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn hybu dewis iaith yn yr Eisteddfod
PostiwydY mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ail hybu ei ymgyrch i gynnig dewis iaith er mwyn cadw pobl yn ddiogel rhag tân yn y cartref.
Cafodd yr ymgyrch ei lansio gan y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru dair blynedd yn ôl ac oherwydd bod yr ymgyrch wedi bod mor llwyddiannus bydd yn cael ei ail-lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yr wythnos nesaf.
Meddai Gareth Griffiths o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn efryn ar i drigolion gymryd mantais o'n harchwiliadau diogelwch tân yn y cartref, sydd ar gael rhad ac am ddim, er mwyn cadw eu hanwyliaid mor ddiogel â phosib yn y cartref.
"Yn ogystal â gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim, bydd aelod o'r gwasanaeth yn eich helpu i lunio cynllun dianc, trafod pwysigrwydd arferiad gyda'r nos a rhannu cynghorion cyffredinol am ddiogelwch tân yn y cartref - ac y mae'r gwasanaeth achub bwyd hwn ar gael yn Gymraeg.
"Rydym yn cydnabod bod canran uchel iawn o siaradwyr Cymraeg yn byw yn y cymunedau yr ydym ni'n eu gwasanaethu a'i bod yn bwysig rhoi dewis iaith i drigolion.
"Yn galonogol iawn rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau dwyieithog yn ein cymunedau - yn ystod y tair blynedd diwethaf mae nifer yr archwiliadau diogelwch tân yn y cartref sy'n cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu'n raddol o 4% i 20% a rydym yn credu ei fod yn bwysig i barhau i hybu y gwasanaeth dwyieithog yma.
"I gofrestru am archwiliad neu i drefnu archwiliad ar ran perthynas, ffrind neu gymydog, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234. Gall yr alwad achub eich bywyd chi neu un o'ch anwyliaid".
Yn gynharach eleni roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn fuddugol yng Ngwobrau Ysbrydoli Cymru'r Sefydliad Materion Cymreig yn y categori Cymraeg yn y Gweithle. Roedd hyn yn cydnabod y camau y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi eu cymryd i hybu a chynyddu'r defnydd o Gymraeg a'r effaith gadarnhaol y mae hyn wedi ei gael ar y sefydliad.
Bydd pobl a fydd yn galw i stondin y gwasanaethau tân ac achub yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r sioeau lleol sy'n cael eu cynnal ar draws y Gogledd dros y misoedd nesaf yn derbyn magnet handi iawn yn rhad ac am ddim i'w hatgoffa bod gwasanaeth dwyieithog ar gael a sut i gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref.
Fe ychwanegodd Gareth: "Y mae'n bwysig bod pobl yn cael gwasanaeth yn eu hiaith ddewisol, yn enwedig pan fydd hynny'n ymwneud â diogelwch yr unigolyn neu deulu, ac y mae'r ymgyrch yma yn cydnabod hyn mewn ffordd gadarnhaol ac ymarferol. "
Mae fideo wedi ei chyflwyno gan Sarra Elgan sydd yn hybu'r gwasanaeth yma dros Gymru i'w weld ar www.freesmokealarm.co.uk/?lang=cy