Diogelwch tân yn cael blaenoriaeth gan CCG
PostiwydMae diogelwch yn cael ei roi ar frig yr agenda wrth i gymdeithas dai, Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) lansio cynlluniau newydd i reoli tân yn ei fflatiau sydd wedi eu hadeiladu i bwrpas.
Dros yr wythnosau nesaf bydd CCG yn hyrwyddo negeseuon am ddiogelwch tân er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg tenantiaid am yr hyn sydd angen iddynt ei wneud os digwydd tân yn eu fflat. Bydd yr ymgyrch yn cyd-fynd a chynllun dwy flynedd gwerth £1.2 miliwn i uwchraddio fflatiau i wella diogelwch.
Mae'r cynlluniau wedi eu datblygu gyda chefnogaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac wedi eu cymeradwyo gan Bartneriaeth Tenantiaid CCG. Mae'n golygu os oes tân yn cynnau y bydd yn cael ei gyfyngu i'r man ble mae'n cychwyn.
Mae'r gwaith yn cynnwys gosod drysau tân newydd a gwneud gwaith diogelwch arall yn unol ag argymhellion arbenigwyr tân. Bydd fflatiau unigol yn cael eu hamddiffyn gyda larymau mwg a gwres a chynlluniau gwagio adeiladau yn cael eu cyflwyno yn seiliedig ar yr egwyddor o 'Addas i Aros'.
Dywedodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr CCG: "Mae diogelwch ein tenantiaid yn flaenoriaeth i ni a byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau eu bod yn deall y newidiadau 'rydym yn eu cyflwyno i wella diogelwch tân yn eu cartrefi. Unwaith mae'r gwaith wedi cychwyn byddwn yn cynnal sesiynau glaw mewn gyda Swyddogion Tân ac yn ymweld â thenantiaid yn unigol i esbonio beth yw'r drefn newydd."
Dywedodd Paul Jenkinson, Pennaeth Diogelwch Tân Busnes gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn gweithio'n galed i sicrhau diogelwch ei breswylwyr ac yn buddsoddi yn sylweddol i sicrhau bod adeiladau yn ddiogel i bawb os oes tân. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gweithio yn agos efo CCG i esbonio pwysigrwydd lefelau addas o ddiogelwch wrth roi polisi 'Addas i Aros' mewn lle.
Ni fydd y polisi newydd yn cael ei roi ar waith nes bydd y gwaith uwchraddio wedi ei gwblhau mewn unrhyw floc o fflatiau ac ni fydd yn berthnasol i dai na byngalos. Bydd CCG yn cysylltu efo pawb sy'n cael ei effeithio ond os yw tenant yn ansicr os yw'r newidiadau yn berthnasol iddyn nhw mae CCG yn eu hannog i gysylltu ar 0300 123 8084.