Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd ieuenctid Sir y Fflint
Postiwyd
Fe gymrodd criw o bobl ifanc o Sir y Fflint ran yng Nghwrs Y Ffenics II yn ddiweddar. Dyma fenter arloesol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae prosiect Y Ffenics wedi ei ddylunio'n arbennig i helpu pobl ifanc ailgyfeirio eu bywydau. Drwy gymryd mantais o'u brwdfrydedd i gwblhau gweithgareddau gwerth chweil a chynhyrchiol y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i ddod yn rhan o'r gymuned ynghyd â'u cyfoedion.
Cynhaliwyd y cwrs yng ngorsaf dân yr Wyddgrug.
Meddai Eryl Jones, Cydlynydd Y Ffenics: "Rwyf yn falch o weld fod y cyrsiau hyn wedi bod yn hynod lwyddiannus unwaith yn rhagor."
" Mae'r cwrs yn ddilyniant o'r cwrs Ffenics cyntaf ac mae'n rhoi cyfle i'r disgyblion ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.
"Rwyf yn mawr obeithio bod y bobl ifanc wedi elwa o fynychu cwrs y Ffenics, ac y byddant yn parhau i elwa yn y dyfodol."