Diwrnod Agored yng Ngorsaf Dân y Rhyl
PostiwydBydd Gorsaf Dân y Rhyl yn cynnal Diwrnod Agored ar ddydd Llun 26ain Awst, yn dechrau am 11.00am.
Yn ystod y dydd, bydd cyfle i aelodau'r cyhoedd gofrestru i gael archwiliad diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, cyfarfod y diffoddwyr tân, gweld y cyfarpar a'r cerbydau, cael barbeciw, gweld arddangosfeydd a llawer mwy.
Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yno ar y dydd. Caiff ymwelwyr weld y tu mewn i ambiwlans argyfwng a sgwrsio â'r criwiau ynglŷn â'u rôl yn y gymuned.
Meddai parafeddyg o'r Rhyl Dermot O'Leary: "Rydym yn awyddus i gefnogi ymdrechion ein cydweithwyr yn y gwasanaeth tân i leihau nifer yr anafiadau."
Dywedodd Richard Westwood, Rheolwr Gwylfa Gorsaf Dân y Rhyl: "Bydd yn ddiwrnod gwych i'r teulu, lle medrent ddysgu sut i aros yn ddiogel rhag tân a mwynhau eu hunain ar yr un pryd. Mae gennym nifer o atyniadau yma ar y dydd, gyda rhywbeth yn addas i bawb."
Bydd yr holl elw o'r diwrnod yn cael ei roddi i Elusen Diffoddwyr Tân, Hosbis St Kentigern a Tŷ Gobaith.
Mae Gorsaf Dân y Rhyl ar Ffordd yr Arfordir yn y Rhyl.