Ymbil ar i bobl gymryd diogelwch tân o ddifrif yn dilyn cwest i farwolaeth tân yng Nghonwy
PostiwydBu i swyddogion tân amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol a chynlluniau dianc heddiw yn dilyn cwest i dân difrifol mewn fflat yng Nghonwy yn gynharach eleni lle bu farw dynes.
Bu farw Sarah Green, 31, yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol iawn yn dilyn tân mewn fflat yn Berry Street Ddydd Gwener 15fed Chwefror 2013. Cafodd dyn hefyd driniaeth yn ysbyty oherwydd ei fod wedi anadlu mwg.
Galwyd diffoddwyr tân o Gonwy a Llandudno i'r tân mewn fflat ar y llawr cyntaf am 17.18 o'r gloch ac achub Sarah. Roeddent wedi cael eu rhybuddio am y tân gan berchennog busnes cyfagos a welodd fwg a fflamau yn dod o'r fflat. Cafodd ei chludo i'r uned gofal dwys ond bu farw drannoeth.
Meddai Terry Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Yn gyntaf, hoffwn anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau'r ymadawedig yn dilyn y digwyddiad trasig hwn.
"Y mae'r cwest heddiw wedi dangos bod modd i bawb amddiffyn eu hunain rhag tân yn y cartref drwy gymryd rhai camau syml
"Rydych ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref os nad oes gennych chi larymau mwg gweithredol. Unwaith y bydd tân yn cynnau, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i fynd allan o'r adeilad. Gall larwm mwg gweithredol eich rhybuddio mewn da bryd a rhoi cyfle i chi fynd allan, aros allan, a galw 999. Y mae modd prynu larwm mwg cyffredin am yr un pris â phaced o sigaréts. Gwell fyth yw larymau mwg sydd gan fatri hir oes neu larymau sydd wedi eu cysylltu i'r prif gyflenwad trydan.
"Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod wedi ymarfer eich cynllun dianc o dân a fydd yn eich helpu i fynd allan yn fyw mewn achos o dân. Peidiwch byth â chadw drysau tân ar agor - mae'n well cadw pob drws ynghau er mwyn atal y mwg rhag lledaenu drwy'ch cartref ac amddiffyn eich llwybr dianc.
"Yn ogystal â bod yn ddrwg i'ch iechyd, os ydych yn ysmygu rydych chi a'ch teulu hefyd mewn perygl o gael eich anafu neu eich lladd o ganlyniad i dân yn y cartref.
"Dengys ystadegau bod ysmygwyr dri deg pump y cant yn fwy tebygol o ddioddef tân yn y cartref na phobl sydd ddim yn ysmygu. Y mae hyn yn cynyddu'n sylweddol pan fydd pobl wedi bod yn yfed alcohol.
Drwy ddilyn rhai rhagofalon syml, gall ysmygwyr sydd ddim eto'n barod i roi'r gorau iddi helpu i atal tân yn y cartref:
- Cymrych ofal os ydych chi wedi blino, yn cymryd unrhyw fath o gyffuriau neu os ydych chi wedi bod yn yfed alcohol. Mae' hawdd iawn syrthio i gysgu tra bod eich sigarét yn dal i losgi.
- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely - os oes raid i chi orffwys, peidiwch â thanio. Gallwch bendwmpian a rhoi eich gwely ar gan.
- Peidiwch byth â gadael sigaréts, sigarau neu getyn yn llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt - gallant droi drosodd yn hawdd iawn wrth iddynt losgi.
- Prynwch danwyr a matsis sydd yn ddiogel rhag plant - bob blwyddyn mae plant yn marw oherwydd eu bod wedi cynnau tân gyda matsis a thanwyr. Cadwch hwy ymhell o gyrraedd plant.
- Defnyddiwch flwch llwch pwrpasol a thrwm na ellir ei droi drosodd yn hawdd ac sydd wedi ei wneud o ddefnydd anhylosg. Gwnewch yn siŵr nad ydy eich sigarét yn dal i losgi ar ôl gorffen - diffoddwch hi, yn llwyr.
- Rhowch y lludw mew blwch llwch, peidiwch byth â'i roi mewn bin sbwriel - gwagiwch eich blwch llwch yn rheolaidd fel nad ydy'r lludw a'r bonion sigaréts yn pentyrru.
Am ragor o gyngor ar ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg newydd yn eich cartref, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref. I gofrestru, galwch eich llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234 new ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.