“Cymrywch bwyll arbennig”pan fydd diffoddwyr tân ar streic
PostiwydY mae Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i'r cyhoedd 'gymryd pwyll arbennig' o safbwynt diogelwch tân yn y cartref a diogelwch ffyrdd yn ystod y streic sydd wedi ei threfnu gan ddiffoddwyr tân.
Y mae Undeb y Brigadau Tân wedi cyhoeddi ddoe (17eg Medi) y bydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu'n ddiwydiannol Ddydd Mercher 25ain Medi rhwng hanner dydd a 4.00pm.
Y mae disgwyl i nifer uchel o staff y gwasanaeth tân ac achub brotestio a bydd y rhain yn cynnwys staff gweithredol. O ganlyniad i ostyngiad mewn adnoddau ni fydd yn bosib i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ddarparu ymateb brys o'r un lefel ag arfer i danau ac argyfyngau eraill, ac felly bydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethu digwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.
Bu i'r Prif Swyddog Tân Simon Smith gysuro'r cyhoedd: " Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drefniadau ar waith i barhau i ddarparu gwasanaeth drwy gydol y streic" ond fe rybuddiodd " mae'n bosib y bydd y gwasanaeth yn gyfyngedig ar adegau dan yr amgylchiadau".
Meddai'r Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Tra bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwerthfawrogi ac yn parchu pryderon y staff sydd wedi arwain at eu penderfyniad i brotestio'n gyfreithlon yn y modd hwn, mae gan yr Awdurdod ddyletswydd a rhwymedigaeth i wneud yn siŵr na fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i'r cyhoedd, cyn belled â bod hynny'n ymarferol bosib. Dyma anghydfod rhwng Undeb y Brigadau Tân (FBU) a'r Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr dros y newidiadau arfaethedig i drefniadau pensiwn. Mae'r newidiadau hyn yn mynd i effeithio ar nifer o bobl mewn sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, prif flaenoriaeth yr Awdurdod yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a chysondeb y gwasanaeth cyhoeddus.
Fe aeth y Prif Swyddog Tân Simon Smith ymlaen i ddweud: "Yn wahanol i'r anghydfod yn 2002/3 ni fydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael cefnogaeth gan y fyddin gyda'r peiriannau 'Green Goddesses' ac felly fe fydd ein gallu i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd yn gryn her. Fod bynnag, byddwn yn parhau i ymateb i wasanaethau brys drwy flaenoriaethu'r adnoddau sydd ar gael i ni, gan ganolbwyntio ar achub bywydau."
Er mwyn helpu pobl i gymryd pwyll arennig o safbwynt diogelwch tân a helpu i leihau'r peryglon i gymunedau a busnesau, bydd cynghorion diogelwch a chanllawiau ar gael ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol Facebook a Twitter (#takeextracare) , yn ogystal â'r newyddion lleol.
Fe bwysleisiodd y Prif Swyddog Tân bwysigrwydd y cynghorion canlynol mewn achos o dân;
- Atal sydd orau - talu sylw ychwanegol i ddiogelwch tân yn y cartref
- Sicrhewch fod gennych larwm fwg sydd yn gweithio
- Os bydd tân - ewch allan, arhoswch allan, a galwch 999
- Peidiwch â chael eich temtio i daclo'r tân eich hun.
"Y mae hi bob amser yn bwysig i chi gymryd sylw o ddiogelwch tân, ond mae hyn yn bwysicach fyth yn ystod yr adegau hyn," meddai. "Rwyf yn erfyn ar i bobl gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel, megis gwneud yn siŵr bod ganddynt larymau mwg gweithredol.
"Os bydd angen i unrhyw aelod o'r cyhoedd ein galw ni mewn perthynas â mater nad ydyw'n fater brys yn ystod yr achos o weithredu diwydiannol, byddai o gymorth i ni pe byddent yn aros hyd nes i'r gwasanaeth arferol gael ei adfer cyn gwneud yr alwad honno ."
Sut allwch chi gadw'n ddiogel rhag tân? Dyma air i gall ar ddiogelwch tân;
Larymau Mwg - Gosodwch larwm mwg ar bob llawr yn eich cartref a phrofwch hwy yn rheolaidd. Dylid gwirio'r batris unwaith yr wythnos a'u newid o leiaf unwaith y flwyddyn.
Coginio - Cymrwch ofal arbennig wrth goginio. Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio. Peidiwch â llenwi eich sosban tsips fwy na thraean. Peidiwch byth â rhoi bwyd i mewn yn eich sosban tsips os bydd yr olew yn mygu - trowch y gwres i ffwrdd a gadewch iddo oeri. Peidiwch byth â choginio os ydych dan ddylanwad alcohol.
Canhwyllau -Peidiwch â defnyddio canhwyllau yn rhy agos at lenni. Peidiwch â gadael canhwyllau heb neb i gadw llygaid arnynt. Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau'n cael eu diffodd yn gywir bob amser.
Matsis- Cadwch fatsis a thanwyr ymhell o gyrraedd plant.
Defnyddiau Ysmygu- Defnyddiwch flwch llwch priodol bob amser. Diffoddwch ddefnyddiau ysmygu yn gywir. Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.
Cynllun Dianc- Cynlluniwch eich llwybr dianc gyda phawb. Cofiwch gynnwys plant a'r henoed bob amser. Caewch bob drws gyda'r nos a diffoddwch yr holl gyfarpar trydanol yn y plwg oni bai eu bod yn cael eu defnyddio.
Tanau Agored- Rhowch gard dân o flaen pob tân agored. Peidiwch â sychu dillad yn rhy agos i dân agored.
Trydan - Newidiwch unrhyw geblau sydd wedi gwisgo neu dreulio. Defnyddiwch y ffiwsiau cywir mewn offer trydanol domestig. Profwch flancedi trydan unwaith y flwyddyn. Peidiwch â gorlwytho socedi.
Diogelwch tân i fusnesau yn ystod y gweithredu diwydiannol:
Er mwyn sicrhau bod eich adeilad yn parhau i fod yn ddiogel rhag tân yn ystod achos i weithredu diwydiannol:
Yn gyntaf, dylai perchnogion busnes adolygu eu Hasesiad Risgiau Tân ac, os bydd angen gwneud newidiadau, rhoi'r rhain ar waith ar unwaith. Yn ogystal â hyn, bydd angen cymryd rhagofalon i atal tanau rhag cynnau. Gall hyn fod cyn symled â cherdded o gwmpas yr adeilad ar ddiwedd diwrnod gwaith er mwyn gwneud yn siŵr nad oes defnyddiau hylosg yng nghyffiniau'r adeilad.
Bydd angen i berchnogion wneud yn siŵr bod holl aelodau'r staff yn ymwybodol o'r gweithdrefnau ar gyfer lleihau'r tebygolrwydd o dân a bod pawb yn parhau i fod yn effro i beryglon tân. Bydd yr hyn sydd angen i berchnogion unigol eu gwneud yn ddibynnol ar eu Hasesiad Risgiau Tân eu hunain.
Yn ystod unrhyw gyfnod o weithredu diwydiannol, y 'Person Cyfrifol' fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gynnal y rhagofalon tân yn yr adeilad fusnes, ac felly cynghorir perchnogion busnes i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005, er mwyn gwneud yn siŵr bod staff, ymwelwyr a'r adeilad yn ddiogel.