Larymau mwg yn achub bywydau cwpl o Brestatyn
PostiwydCafodd cwpl yn eu 70au ddihangfa lwcus o dân yn eu cartref ym Mhrestatyn ddoe gyda diolch i'r larymau mwg arbenigol i'r trwm eu clyw a osodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Cafodd criwiau o Brestatyn a'r Rhyl eu galw i dân mewn cegin yn St George's Drive, Prestatyn am 16.47 o'r gloch ar ôl i larymau mwg arbenigol i'r trwm eu clyw, a osodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, rybuddio'r preswylwyr am y tân.
Fe daclodd y dyn y tân ar ei ben ei hun ei hun ac roedd y tân wedi ei ddiffodd pan gyrhaeddodd y criwiau.
Cafodd y ddau breswylydd archwiliad rhagofalol gan barafeddygon yn y fan a'r lle.
Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Mae'r digwyddiad hwn yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg a sut y gallant arbed bywydau.
"Fe osodwyd larymau mwg i'r trwm eu clyw yng nghartref y cwpl yn ystod archwiliad diogelwch tân yn y cartref. Mae gan y larymau hyn badiau sydd yn dirgrynu a goleuadau sydd yn fflachio i rybuddio pobl sydd yn drwm eu clyw o dân yn y cartref. Mae larymau arbenigol fel hyn yn cael eu gosod yn rhad ac am ddim, yn yr un modd â'r larymau mwg arferol.
"Rydych ddwywaith yn fwy tebygol o farw mewn tân yn y cartref os nad oes gennych larymau mwg gweithredol. Os bydd tân yn cynnau, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i ddianc. Gall larwm mwg eich rhybuddio mewn da bryd a rhoi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999.
"Bydd cynllun dianc cyfarwydd yn eich helpu i fynd allan yn fyw pe byddai'r gwaethaf yn digwydd. Hefyd, ceisiwch sefydlu arferion gyda'r nos - diffodd eitemau trydanol a chau drysau i atal mwg rhag lledaenu ac amddiffyn eich llwybr dianc pe byddai tân yn digwydd.
"Yn anffodus, fe geisiodd y dyn daclo'r tân ei hun ac roedd yn ffodus iawn na chafodd ei anafu'n ddifrifol. Peidiwch bydd â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno a pheidiwch byth â thaclo tân eich hun - gadewch y gwaith yma i ni.
"Am ragor o gyngor ar ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg yn rhad ac am ddim yn eich cartref, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am archwiliad diogelwch tân. I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges. "