Gwers lem am ddiogelwch y ffyrdd i fyfyrwyr yng Ngogledd Cymru
PostiwydMAE myfyrwyr ar draws Gogledd Cymru wedi bod yn cael gwers lem am ddiogelwch y ffyrdd.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi uno gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Heddlu Gogledd Cymru ar daith addysgol o gwmpas colegau'r rhanbarth.
Lluniwyd y bartneriaeth i addysgu pobl ifanc am beryglon y 'Pump Angheuol' - goryrru, gyrru gwrthgymdeithasol, dim gwregysau, gyrru dan ddylanwad y ddiod neu gyffuriau a defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Mae partneriaid y gwasanaethau brys yn gobeithio cyrraedd mwy o bobl ifanc nag erioed yn y cyfnod cyn Wythnos Diogelwch y Ffyrdd (Tachwedd 18-24).
Lansiwyd y Sioe Deithiol Effeithiau Angheuol yng Ngholeg Cambria Wrecsam lle'r oedd y parafeddyg Dermot O' Leary yn rhoi adroddiad byw o'r hyn sy'n digwydd i'r corff dynol yn ystod damwain.
Dywedodd: "Rydw i'n egluro pa anafiadau y gallan nhw eu cael yn ystod damwain, y niwed i'r corff a'r sgiliau clinigol y byddwn i'n eu defnyddio i geisio arbed eu bywydau. Mae'r oedolion ifanc hyn yn haeddu dyfodol ac nid wyf yn ceisio cuddio'r ffeithiau pan fydda i'n egluro'r hyn a allai fynd o'i le wrth yrru."
Ychwanegodd Dermot o'r Rhyl: "Mae damweiniau ffyrdd yn achlysuron trasig sydyn a all achosi siociau dirfawr i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau. Gall gwneud oedolion ifanc yn ymwybodol o'r peryglon ar y ffyrdd olygu llai o ddigwyddiadau i ni efallai lle mae'n rhaid i ni'n llythrennol godi'r darnau."
Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n defnyddio darnau o fideo a chyfranogiad cynulleidfa i addysgu myfyrwyr.
Dywedodd arweinydd tîm diogelwch y gymuned, Sharon Bouckley: "Lluniwyd y Sioe Deithiol Effeithiau Angheuol i gyflwyno negeseuon llym i yrwyr ifanc drwy eu gwneud yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau ar y ffyrdd a'r canlyniadau angheuol posibl o oryrru neu beidio â thalu sylw wrth
yrru.
"Rydyn ni fel gwasanaeth tân ac achub yn mynychu nifer mawr o ddamweiniau ffyrdd i bobl ifanc - ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i addysgu ein pobl ifanc a lleihau'r nifer o drasiedïau ar ein ffyrdd."
Rhybuddiodd Heddlu Gogledd Cymru am ganlyniadau bod yn gyfrifol am ddamwain gan gynnwys pwyntiau cosb ar eich trwydded a hyd yn oed garchar.
Dywedodd yr Arolygydd Martin Best Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae digwyddiadau diogelwch y ffyrdd aml-asiantaeth wedi profi'n ddull rhagorol o gael pobl i feddwl am ganlyniadau eu gyrru a, thrwy weithio mewn partneriaeth, rydym am gyflwyno negeseuon i
yrwyr ifanc am beryglon peidio â gwisgo gwregys, goryrru a defnyddio ffonau symudol.
Ychwanegodd: "Mae'r arddangosfeydd ymarferol o ddigwyddiadau realistig ynghyd â chyflwyniadau gan bob partner, gobeithio, wedi dangos y realaeth a gobeithio y bydd nifer o bobl ifanc wedi ystyried hyn oll."
Bydd partneriaid y gwasanaethau brys hefyd yn ymweld â cholegau yng Nglannau Dyfrdwy a Llaneurgain, ynghyd â Glynllifon, Dolgellau, Pwllheli, Llandrillo, Llangefni a Bangor yn y cyfnod cyn Wythnos Diogelwch y Ffyrdd sy'n cael ei chydlynu'n flynyddol gan yr elusen diogelwch y ffyrdd Brake.